‘Balch’: Angharad James yn barod i arwain Cymru wrth anelu am Euro 2025
Mae capten newydd Cymru, Angharad James, wedi dweud y bydd yn ‘foment balch’ iddi hi wrth arwain ei gwlad yn y gêm dyngedfennol yn erbyn Slofacia brynhawn dydd Gwener (16.30).
Ennill lle yn Euro 2025 yn y Swistir yw nod y tîm ac er mwyn gwneud hynny, fe fydd angen i Gymru guro Slofacia dros ddau gymal, cyn cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle ddiwedd Tachwedd.
Gyda’r ail gymal yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Cymru yw’r ffefrynnau i ennill eu lle yn y rownd derfynol.
Ac mae’r rheolwr Rhian Wilkinson yn pwysleisio na fydd unrhyw un yn di-ystyried Slofacia, sydd yn 51fed ar restr ddetholion y byd FIFA.
“Mae Slofacia yn dîm da iawn,” meddai.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1849494164406178146
“Fe fyddai'n annoeth i ni edrych heibio’r gêm nos fory, oherwydd pan mae hwnna drosodd, mae 'na gêm arall yng Nghaerdydd.
“Mae’n rhaid i ni feddwl fesul gêm, wrth i ni chwarae yn erbyn tîm o safon. Dwi’n meddwl bod y tîm yn barod ac wedi’i pharatoi er mwyn cyrraedd y safonau maen nhw wedi gosod.”
Wedi i Sophie Ingle gamu i lawr fel capten y tîm fis Ebrill, mae Wilkinson wedi rhoi cyfle i sawl aelod o’r garfan yn y rôl mewn gemau dros y misoedd diwethaf.
Ond yn gynharach fis yma, fe gafodd Angharad James ei phenodi yn gapten parhaol y tîm.
Mae’r chwaraewr canol cae dros Seattle Reign, a gafodd ei magu yn Hwlffordd, wedi ennill 122 o gapiau rhyngwladol hyd yma a hithau ond yn 30 oed.
Dywedodd James: “Roedd o’n foment balch iawn i mi. Mae cael gwisgo’r band am fy mraich yn fraint ac anrhydedd, ond nid amdana i yw e ar y foment hon.
“Dim ots pwy sy’n gwisgo’r band yna, mae’n rhaid i bawb gamu lan ac arwain, oherwydd heb 11 o arweinwyr, so ni’n cael y canlyniad ni angen.
“Wrth gwrs, roedd yn foment balch iawn i mi a fy nheulu. Dwi wedi gweithio mor galed ers o’n i’n blentyn ifanc a fy mreuddwyd oedd chwarae i Gymru a rhoi’r crys coch ymlaen.
“Rwy wedi cyflawni hynny ac mae hyn nawr yn fonws ychwanegol i mi.”
Fe fydd gan Wilkinson garfan lawn i ddewis ohoni yn Poprad ddydd Gwener wedi iddi gadarnhau y bydd y seren Jess Fishlock yn holliach i chwarae ar ôl pryderon dros ei ffitrwydd.
Lluniau: Cymdeithas Bêl-droed Cymru