Lucy Letby yn colli cais i apelio yn erbyn euogfarn
Mae cais y llofrudd plant Lucy Letby i apelio yn erbyn ei heuogfarn ddiweddaraf am geisio llofruddio merch fach wedi cael ei wrthod gan y Llys Apêl.
Gofynnodd cyfreithwyr Letby i uwch farnwyr i gymeradwyo apêl yn erbyn ei heuogfarn ddiweddaraf ar ôl ei chael yn euog yn dilyn ail achos ym mis Gorffennaf o geisio lladd baban newydd-anedig o’r enw Plentyn K.
Daw hyn yn dilyn ail achos llys ym mis Gorffennaf, lle cafodd ei dedfrydu i garchar am oes am y 15fed tro.
Fe gynhaliwyd y gwrandawiad o flaen yr Arglwydd Ustus William Davies, yr Arglwydd Ustus Jeremy Baker ac Mrs Ustus McGowan ddydd Iau.
Wedi dau achos llys, mae Letby yn treulio gweddill ei hoes mewn carchar ar ôl iddi gael ei dyfarnu'n euog o lofruddio saith babi ac o geisio llofruddio chwech arall, gyda dau ymgais ar un o'r babanod.
Fe gafodd ymgais i apelio yn erbyn yr euogfarnau yma ei wrthod ym mis Mai.