Newyddion S4C

Trump yn cyhuddo Llafur o ymyrryd yn yr etholiad arlywyddol

23/10/2024

Trump yn cyhuddo Llafur o ymyrryd yn yr etholiad arlywyddol

Mae Donald Trump wedi cyhuddo'r Blaid Lafur o ymyrryd yn etholiad arlywyddol UDA.

Yn ôl Mr Trump, mae rhai o ymgyrchwyr y blaid wedi bod yn helpu gydag ymgyrch ei wrthwynebydd, Kamala Harris. 

Ychwanegodd ymgyrch y cyn-arlywydd fod cysylltiadau Llafur â'r blaid Ddemocrataidd yn gyfystyr ag "ymyrraeth dramor anghyfreithlon".

Dywedodd Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer fod aelodau Llafur yno yn eu "hamser rhydd".

Mae cwyn Mr Trump yn canolbwyntio ar neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan bennaeth gweithrediadau y blaid, Sofia Patel.

Mae'r neges yn dweud bod ganddi "ddeg lle ar gael" ar gyfer unrhyw un sy'n fodlon teithio i Ogledd Carolina i ymgyrchu ar gyfer Ms Harris, gan ychwanegu y byddant yn "trefnu lle i aros iddynt".

O dan gyfraith yn UDA, mae gan bobl sydd ddim yn ddinasyddion yn y wlad yr hawl i ymgyrchu mewn etholiadau ond nid oes ganddynt yr hawl i gael eu talu. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.