Newyddion S4C

Cyhoeddi enw baban pedwar mis oed fu farw yn Sir Benfro

clunderwen

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw baban pedwar mis oed fu farw yng Nghlunderwen yn Sir Benfro ddydd Gwener. 

Bu farw Kali Creed Green yn y fan a'r lle wedi i'r heddlu gael eu galw i eiddo yn y pentref wedi pryderon am ei les.

Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth. 

Mae dau o bobl, menyw 19 oed a dyn 23 oed, a gafodd eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un 'anesboniadwy' ac mae'r crwner wedi cael ei gynghori am yr achos.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.