Liam Payne wedi marw yn 31 oed
Liam Payne wedi marw yn 31 oed
2010 ac yntau ar drothwy ymuno a grŵp One Direction.
Un cyfeiriad oedd i'r pump yma, enwogrwydd byd-eang.
# You don't know you're beautiful #
Roedd Liam Payne yn rhan o grŵp a daniodd ddychymyg cenhedlaeth gan werthu dros 70 miliwn record.
Yn 2016, dyma ddiwedd y daith a'r grŵp yn dilyn llwybrau'u hunain.
Yn 2017, daeth yn dad i'w unig blentyn gyda'r gantores, Cheryl.
I un oedd wedi ei gyfarfod tra ar yr X Factor mae'n ei gofio fel cymeriad cyfeillgar.
"Oedd 'da fe amser i bawb, pan oedd e'n cael bwyd, oedd e'n siarad â ni.
"Oedd e'n amlwg wedi bod e'n gwylio'r rhaglen.
"Dyna beth sy'n drist achos y peth mwya chi'n gallu rhoi yw'ch amser.
"Wnaeth e argraff arna i a'r cystadleuwyr eraill.
"Oedd e yna gyda'i fab, gyda Cheryl, pan o'n nhw dal gyda'i gilydd.
"Mae pobl yn gweld y canwr ar y teledu, yr artist ond wnes i weld yr ochr arall.
"Mae mor drist bod e'n gadael ei fab, ei deulu, rhieni a ffrindiau."
Oddi ar y llwyfan, siaradodd am ei broblemau iechyd meddwl a'i frwydr gydag alcoholiaeth.
"In the band, the best way to secure us was to lock us in our rooms.
"In the room there's the mini bar so I thought I'd have a party for one!"
Neithiwr yn Buenos Aires, cafodd yr heddlu ei galw i'r gwesty yma ar ôl adroddiadau am ddyn all fod o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol
Disgynnodd Liam Payne o falconi trydydd llawr yr adeilad ar ôl i swyddogion gyrraedd.
# You and me got a whole lot of history #
Gobeithio am aduniad oedd llawer o weld y pump o One Direction yn un eto.
Ond yn hytrach, cofio heno mae'i deulu, ffrindiau a'i filiynau o ddilynwyr benbaladr am seren bop bu farw'n rhy ifanc.