'Mwy o fusnesau yn gweld llai o ymwelwyr'
'Mwy o fusnesau yn gweld llai o ymwelwyr'
Cadw golwg ar bwy sy'n dod ond faint ddaeth dros yr haf?
Mae'r gwesty yma'n Llangain, Sir Gaerfyrddin angen ymwelwyr dros y cyfnod prysura.
"Dim rhy ffôl.
"Ni'n gyfarwydd â'r lefel sy'n dod drwyddo ar hyn o bryd yn cymharu 'run peth a'r llynedd.
"Mae 'di dod lawr wedi Covid a popeth.
"Mae 'di setlo lawr ac mae'r haf wedi bod yn oce.
"Ddim yn grêt ond ddim yn wael chwaith."
Yn ôl ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru rhyw un ymhob chwech o fusnesau oedd yn deud eu bod wedi cael mwy o ymwelwyr yr haf yma na'r llynedd.
Tua hanner yn deud bod hi rhywbeth yn debyg.
Ond, roedd 38% o fusnesau wedi cael llai o ymwelwyr yr haf yma na haf y llynedd.
Darlun cymysg ond mwy yn deud bod hi'n waeth nag yn well.
O ran pam y byddai llai o ymwelwyr roedd dros hanner y busnesau'n cyfeirio at y tywydd.
Ond roedd dros 40% yn dweud bod pobl yn brin o arian.
"Oedd pawb yn disgwyl pethau.
"Chi'n edrych nôl dros yr haf sydd newydd fynd.
"Y tywydd ddim yn dda iawn, yn anffodus costau byw dal yn uchel iawn...
"..ac oedd Pasg yn gynnar, oedd ddim yn help.
"Wrth gwrs, pêl-droed, Pencampwriaeth Ewropeaidd...
"..oedd etholiad mawr eleni a'r Olympics."
Roedd hi'n dywydd eistedd y tu allan i'r dafarn yn Llansteffan.
Ond nid bob dydd.
"Mae'r haf yn fishi os yw'r haul yn dod mas.
"Ond, os mae'n bwrw glaw, mae'n dawel iawn.
"Mae'r bobl yn dod i'r pentref i gerdded ar y coastal path.
"Pan mae'r haul yn dod mas, mae'n fishi."
Oes rhywbeth y byddech chi'n hoffi gweld fyddai'n helpu'r busnes?
"Gyda'r Llywodraeth, byddai'n neis yn y wlad hyn...
"..i gael hospitality VAT rate.
"Bydd bach mwy isel na VAT eraill.
"Ond wneith e ddim digwydd.
"Maen nhw'n mynd i ddod mewn a tourism tax nawr.
"Gawn ni weld.
"Rhywbeth felna, mynd nôl i ddyddiau o business rate reductions...
"..i gefnogi'r busnesau."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, hon 'di'r bumed flwyddyn yn olynol i fusnesau gael help efo'r bil treth.
Mae dau gorff yn cynnig cefnogaeth bellach sef Croeso Cymru a Busnes Cymru.
Gall gynghorau lleol gael yr hawl i godi treth ar ymwelwyr er bydd o leiaf tair blynedd cyn hynny.
O ran y dreth ar werth, mae Llywodraeth Prydain yn dweud mai penderfyniad i'r Canghellor fydd hynny yn y gyllideb.
Ond, mae'n amlwg bod Cymru'n dal i ddenu.
"I think it's absolutely beautiful.
"The beach is fabulous and I didn't expect this weather.
"It's perfect, really."
Where have you come from?
"Billericay in Essex."
Are you going to be spending some money?
The tourism industry is saying people aren't spending as much.
"No, we're spending, we're definitely spending money."
Mae Cymru'n barod i estyn croeso.
Ond gorau oll os bydd haul, ac arian hefyd.