Carchar i ddyn o Fôn a wnaeth ei bartner deimlo 'fel caethwas'
Mae dyn o Fôn wnaeth dagu ei bartner a thorri ei dannedd drwy ei chicio wedi cael dedfryd o bedair blynedd ac wyth mis yn y carchar.
Doedd gan Dwayne Thomas, 33 oed, o Stryd Henry yng Nghaergybi “ddim rheolaeth” dros ei hun, yn ôl barnwr yn Llys y Goron Caernarfon, oedd yn eistedd yn Llandudno.
Fe gafodd Thomas orchymyn i beidio mynd yn agos i Kimberley Edwards am weddill ei fywyd ar ôl iddo bledio’n euog i geisio achosi gwir niwed corfforol iddi ac ymddwyn mewn ffordd reolaethol.
Fe fydd yn parhau ar drwydded am dair blynedd ychwanegol.
Dywedodd yr erlynydd Gareth Bellis fod Thomas wedi tagu Ms. Edwards nes iddi golli ymwybyddiaeth, ymosod arni â phibell metel o beiriant hwfer, taflu blwch llwch gwydr arni, rhoi torrwr pitsa yn ei cheg a dal cyllyll yn ei herbyn.
Dywedodd Mr Bellis fod Ms. Edwards - oedd â busnes gwneud cacennau - hefyd wedi'i dyrnu, ei chicio, brathu, a'i phenio gan Thomas, a’i chloi yn y tŷ.
Roedd hi wedi teimlo “fel caethwas” a chafodd ei gadael gyda chreithiau, cleisio a chwyddo a dannedd coll. Fe symudodd o Ynys Môn yn ddiweddarach.
Dywedodd y bargyfreithiwr amddiffyn Dafydd Roberts: “Dyma ddyn sydd yn gallu ymddwyn ac sydd ddim y tu hwnt i dderbyn triniaeth adsefydlu.
Ychwanegodd fod Thomas wedi cael magwraeth “cythryblus”.
“Mae’r rheini sydd yn troseddu yn aml wedi cael eu troseddu yn eu herbyn yn y gorffennol,” meddai Mr Roberts.
Dywedodd y Barnwr Timothy Petts wrth Thomas fod adroddiad cyn-dedfrydu wedi rhoi “ychydig iawn o gysur i mi eich bod chi’n deall neu’n gwerthfawrogi’r hyn rydych chi wedi’i wneud.”
Roedd Thomas wedi beio Ms. Edwards am ei “bryfocio”.
Llun: Heddlu Gogledd Cymru