Rhan o'r A470 ar gau tan fis Rhagfyr
14/10/2024
Rhan o'r A470 ar gau tan fis Rhagfyr
Dyma wraidd y broblem, twll yn ochr y ffordd fis Tachwedd diwethaf.
Ar ôl gwaith trwsio dros dro, un lôn sy wedi bod ar agor ers hynny.
Nawr, bydd y ffordd yn cau am lawer hirach.
Am hyd at saith wythnos, o ddiwrnod olaf mis Hydref hyd at yr 20fed o Ragfyr, bydd yr A470 yn Nhalerddig ar gau i bob cerbyd ar gyfer gwaith atgyweirio parhaol.
Mae'r gwyriad sy'n cael ei argymell yn hir iawn.
Bydd yn mynd a gyrwyr trwy Gaersws, y Drenewydd a'r Trallwng cyn troi i ailymuno a'r A470 ym Mallwyd.
Pan oedd y ffordd ar gau y llynedd fe gollodd y busnes hwn lawer o gwsmeriaid.
Yn ôl pobl leol, mae'r cau hirach yn poeni'r perchennog.
"Do, fe ga'th tro diwetha.
"Dyna'i fywoliaeth o.
"Mae pobl Llanbrynmair yn dod i Garno i siopa ac i nôl y papur bro."
"Mae cwmni mawr yng Ngharno sy'n cludo coed o goedwigoedd y Canolbarth i'r felin yn y Waun.
"Bydd yn creu trafferthion yn ddi-os i gwmniau felly.
"Yn bendant, heriau."
Bydd y gwaith atgyweirio yn digwydd yn fan hyn.
Bydd y ffordd ar gau i bob cerbyd am saith wythnos gan gynnwys y gwasanaethau brys.
Dywed Llywodraeth Cymru bydd modd i gerddwyr a beicwyr basio'r gweithfeydd o bosib tra'n cael eu tywys.
Maen nhw'n dweud eu bod yn dal mewn trafodaethau ynghylch ceisio lleihau effaith y cau ar blant sy'n teithio i'r ysgol.
Er bod dargyfeiriad swyddogol ar ffyrdd mawr llynedd fe wnaeth nifer o yrwyr ddefnyddio ffordd leol gul i osgoi'r gwaith, oedd yn anaddas i lawer o draffig.
"Y broblem fwyaf oedd pan oedd amryw o geir yn dod un ffordd amryw o geir yn dod ffordd arall.
"Yn sydyn, doedd nunlle iddynt fynd."
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn deall bydd cau'r ffordd yn achosi anawsterau, ond mae'r gwaith yn hanfodol ar gyfer dyfodol hirdymor y ffordd.