Gwarant arestio rhyngwladol ar gyfer cyn-gapten rygbi Awstralia
Mae gwarant arestio rhyngwladol wedi’i chyhoeddi ar gyfer cyn-gapten rygbi Awstralia, Rocky Elsom.
Daw ar ôl i lys ei gael yn euog o ladrata yn Ffrainc, meddai adroddiadau yng nghyfryngau y wlad.
Elsom, sy’n 41 oed, oedd llywydd RC Narbonne, un o glybiau mwyaf Ffrainc, yn 2015-16.
Ddydd Gwener fe'i cafwyd yn euog gan lys o dalu degau o filoedd o ewros i gyn swyddogion y clwb am ychydig neu ddim gwasanaeth.
Cafwyd Elsom yn euog heb fod yn bresennol a chafodd ddedfryd o bum mlynedd o garchar, yn ôl cyfryngau Ffrainc.
Roedd Elsom wedi chwarae i dalaith Leinster yn Iwerddon ar ddiwedd y 2000au ac fe helpodd y tîm i ennill Cwpan Heineken, prif dwrnamaint rygbi clwb Ewrop, yn 2009.
Roedd y cyn-flaenwr wedi ymddangos 75 o weithiau dros Awstralia rhwng 2005 a 2011.
Ar ôl ymddeol bu'n rhan o gonsortiwm a brynodd RC Narbonne.
Llun: Asiantaeth Huw Evans