Aelodau Plaid Cymru yn cefnogi boicotio 'gwladwriaeth apartheid' Israel
Mae aelodau Plaid Cymru wedi pleidleisio o blaid boicotio "gwladwriaeth apartheid" Israel ddydd Sadwrn yng nghynhadledd y blaid yng Nghaerdydd.
Cefnogodd yr aelodau gynnig gan ASau'r blaid am “boicot economaidd a diwylliannol” o Israel a gwaharddiad ar werthu arfau i’r wlad yn y Dwyrain Canol.
Byddai hynny’n cynnwys boicot gan dimau chwaraeon cenedlaethol Cymru o'r wlad.
Roedd y cynnig hefyd yn cyhuddo Israel o lanhau ethnig a throseddau rhyfel ac yn dweud y dylai Llywodraeth y DU ddiarddel llysgennad Israel.
Roedd hefyd yn galw ar gynghorau Cymru i ddadfuddsoddi o gwmnïau sy’n cefnogi Israel.
Yn gynharach roedd Llysgennad Palestina i'r Deyrnas Gyfunol, Husam Zomlot, wedi siarad yn y gynhadledd, gan ddweud bod Israel yn cyflawni "hil-laddiad" yn Gaza.
Wrth gyflwyno'r cynnig dywedodd Ben Lake, AS Preseli Ceredigion: “Ni ddylen ni gynnig unrhyw gymorth i wladwriaethau sy’n mynd yn groes i benderfyniadau Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a dyfarniadau'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol.
“Rydyn ni angen setliad gwleidyddol ar frys i ddod â'r rhyfel i ben, ac fe ddylai hynny gynnwys cydnabyddiaeth swyddogol o wladwriaeth Palestina.”
Cafodd tua 1,200 o bobl eu lladd yn ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref 2023.
Ers hynny, mae tua 42,000 o bobol wedi’u lladd gan ymosodiadau Israel ar Gaza, yn ôl y weinidogaeth iechyd sy’n cael ei rhedeg gan Hamas.
'Dim cynllun'
Yn hwyrach ddydd Sadwrn fe wnaeth Plaid Cymru addo Awdurdod Datblygu Cenedlaethol newydd i dyfu economi Cymru.
Fe wnaeth Llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi, Luke Fletcher AS, annerch Cynhadledd Flynyddol y blaid yng Nghaerdydd, gan amlinellu cynllun ei blaid i dyfu economi Cymru.
Dywedodd Mr Fletcher y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth i dyfu a gwyrddu'r economi drwy sefydlu Awdurdod Datblygu Cenedlaethol newydd a Banc Datblygu diwygiedig.
“O dan lywodraethau Llafur olynol, mae datblygiad economaidd yng Nghymru wedi mynd tuag yn ôl. Cynnyrch Mewnwladol Crynswth, Gwerth Ychwanegol Crynswth, lefelau arloesi, incwm: i gyd yn llonydd," meddai.
“A beth mae’r mesuriadau economaidd hyn yn ei olygu mewn gwirionedd? Mae bron i draean o'n plant yn byw mewn tlodi.
“Ac yn hytrach na defnyddio ystod gynyddol o ysgogwyr economaidd i ailedrych ar ac ailddyblu ymdrechion i gyrraedd y targedau hynny, mae Llafur yn hytrach wedi eu gollwng yn gyfan gwbl. Yn union fel ar Tata, nid oes gan Lafur gynllun ar gyfer economi Cymru.
“Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio, o’r diwrnod cyntaf, ar osod y sylfeini hanfodol hynny i’n heconomi."