Arestio bachgen 16 oed wedi i Ysgol Gymraeg gael ei chloi i lawr yn Sir Gaerfyrddin
Mae bachgen 16 oed wedi cael ei arestio wedi i ysgol uwchradd Gymraeg gael ei chloi i lawr yn rhannol am gyfnod yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin nad oedd Ysgol Bro Myrddin bellach wedi ei chloi i lawr.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: “Fe aethon ni i Ysgol Gyfun Bro Myrddin y bore yma am tua 11.20yb.
“Codwyd pryderon yn dilyn neges fygythiol yn erbyn un o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin.
“Nid oedd y negeseuon gan ddisgybl o fewn yr ysgol. Cymerodd yr ysgol gamau diogelu priodol a ddaeth i ben yn gyflym.
“Mae un bachgen, 16, wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad hwn ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall.”