Newyddion S4C

Tywysoges Cymru yn gwneud ei hymweliad cyhoeddus cyntaf ers gorffen triniaeth

10/10/2024
kate.png

Mae Tywysoges Cymru wedi gwneud ei hymweliad cyhoeddus cyntaf ers gorffen triniaeth cemotherapi.

Fe wnaeth Tywysog a Thywysoges Cymru ymweld â theuluoedd tri phlentyn a gafodd eu lladd mewn ymosodiad yn Southport ym mis Gorffennaf.

Bu farw Elsie Dot Stancombe, saith oed, ynghyd â Bebe King, chwech oed ac Alice da Silva Aguiar, oedd yn naw oed, yn yr ymosodiad ar Stryd Hart ar 29 Gorffennaf.

Fe siaradodd y ddau gyda gweithwyr y gwasanaethau brys oedd yn bresennol yn ystod yr ymosodiad hefyd. 

Dywedodd y dywysoges wrthynt: "Fedra i ddim pwysleisio ddigon pa mor ddiolchgar ydyn nhw am y gefnogaeth y gwnaethoch chi ddarparu ar y diwrnod. 

"Ar eu rhan nhw, diolch."

Y gred oedd mai dim ond Tywysog Cymru fyddai'n gwneud yr ymweliad, ond fe benderfynodd y dywysoges i ymuno â'i gŵr i ddangos "cefnogaeth, empathi a thrugaredd i'r gymuned leol". 

Cyhoeddodd y dywysoges ym mis Medi y byddai'n dychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus wedi iddi gwblhau triniaeth cemotherapi. 

Cyhoeddodd Palas Kensington ym mis Mawrth fod y dywysoges yn derbyn triniaeth am ganser. 

Fe gafodd y canser ei ddarganfod mewn profion a gafodd eu gwneud ar ôl iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen ym mis Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.