Newyddion S4C

George Baldock: Teyrngedau ar ôl dod o hyd i gorff seren pêl-droed mewn pwll nofio

10/10/2024
George Baldock

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn bêl-droediwr Sheffield United wedi iddo gael ei ganfod yn farw mewn pwll nofio yn 31 oed. 

Fe gafodd yr amddiffynnwr George Baldock ei ganfod yn ei gartref yng Ngroeg ar ôl i’w wraig fethu â chael gafael arno am sawl awr, medd adroddiadau o'r wasg yno. 

Roedd ei wraig, oedd yn Lloegr ar y pryd, wedi cysylltu gyda pherchennog fila yng Nghlyfada ym maestref ddeheuol Athens er mwyn ceisio cael gafael ar Baldock. 

Fe ddaeth perchennog yr eiddo o hyd iddo mewn pwll nofio cymunedol yno cyn cysylltu gyda’r awdurdodau lleol. 

Roedd y pêl-droediwr wedi bod yn y dŵr am nifer o oriau cyn dod o hyd iddo, yn ôl y gwasanaethau brys. 

Teyrngedau

Ymhlith y rheiny sydd wedi rhoi teyrngedau i George Baldock y mae cyn-gapten Manchester United, Harry Maguire. 

Fe rannodd lun ohono gyda’r gair “RIP” wrth ochr emoji torcalon. 

Roedd clwb pêl-droed Sheffield United hefyd wedi rhoi teyrnged i’w cyn amddiffynnwr “poblogaidd.”

“Fe wnaeth e adael y clwb yn yr haf yn dilyn saith mlynedd yn Bramall Lane ac mi'r oedd yn boblogaidd iawn gyda chefnogwyr, staff a chyd-chwaraewr oedd wedi gwisgo crys coch a gwyn,” meddai'r clwb mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Fel rhan o'i yrfa roedd Baldock wedi chwarae pump o gemau pêl-droed ar fenthyg i glwb Northampton Town. 

Dywedodd eu bod yn “hynod o drist” am ei farwolaeth. 

Roedd ei hen glwb pêl-droed, MK Dons, ble fuodd yn chwarae yn fachgen hefyd wedi dweud eu bod yn hynod o drist o glywed am ei farwolaeth. 

“Mi fydd e wastad yn un ohonom ni," medden nhw.

Gyrfa

Roedd Baldock wedi ymuno gyda chlwb pêl-droed Panathinaikos yn ystod yr haf wedi iddo dreulio saith dymor gyda’r Blades, ag yntau wedi chwarae yn yr Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth. 

Yn wreiddiol o Buckinghamshire, roedd wedi chwarae i Wlad Groeg 12 o weithiau. 

Nid oedd yn rhan o garfan ddiweddaraf Groeg wedi iddo ddioddef anaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.