Tom Tugendhat allan o'r ras am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol
Mae Tom Tugendhat allan o'r ras ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ar ôl methu a sicrhau digon o bleidleisiau ddydd Mawrth.
Derbyniodd 20 pleidlais yn unig, gan ei adael yn y safle olaf a'i daflu allan o'r ornest.
Derbyniodd James Cleverly gefnogaeth gan 39 o aelodau seneddol, gyda Robert Jenrick yn hawlio 31 pleidlais a Kemi Badenoch yn derbyn 30 o bleidleisiau.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, diolchodd Mr Tugendhat ei gefnogwyr, gan ddweud bod eu "ynni, syniadau a chefnogaeth wedi dangos gweledigaeth o'r hyn y gall ein plaid fod."
Fe fydd pleidlais yn cael ei chynnal ymysg aelodau seneddol y blaid ddydd Mercher i gael gwared ar un ymgeisydd arall.
Yna fe fydd aelodau'r blaid ar lawr gwlad yn cael cyfle i bleidleisio dros gyfnod o ychydig wythnosau mewn pleidlais ar-lein.
Bydd arweinydd newydd y blaid yn cael ei gyhoeddi ar 2 Tachwedd.