Newyddion S4C

'Mae'n achosi mwy o drawma': 2,000 o bobl yng Nghymru ar restr aros iechyd meddwl

08/10/2024
Kayleigh

Mae disgwyl amser hir am gymorth iechyd meddwl yng Nghymru yn "achosi mwy o drawma i bobl" yn ôl un sy'n dioddef.

Mae Kayleigh Francis, 27 oed o Abertawe, ymhlith y rheiny sydd wedi gorfod disgwyl er mwyn iddi allu derbyn cymorth iechyd meddwl – a hithau’n byw a chyflwr anhwylder personoliaeth ar y ffin (BPD). Fe gafodd Ms Francis diagnosis o’r cyflwr yn 19 oed. 

Mae'n un o tua 2,000 o oedolion sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl difrifol yng Nghymru sydd wedi disgwyl am gyfnod o chwe mis neu fwy am driniaeth arbenigol. 

Ac mae dros 750 o bobl yn rhagor yn gorfod disgwyl am flwyddyn neu fwy i gael triniaeth o’r fath hefyd, yn ôl ffigyrau diweddaraf byrddau iechyd lleol Cymru. 

Daw'r ystadegau wedi cais rhyddid gwybodaeth gan yr elusen Mind Cymru i bob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

Dywedodd yr elusen mai “ychydig iawn o newid, os o gwbl” fu mewn amseroedd aros ar gyfer oedolion sydd angen gwasanaethau cymorth seicolegol arbenigol ers cyn pandemig Covid-19.

Er iddi ddechrau math o therapi arbenigol eleni drwy’r GIG, mae Kayleigh Francis bellach yn ôl ar restr aros arall ar ôl cael ei chyfeirio am therapi rheoli emosiynau, a hithau heb gael unrhyw arwydd ynghylch faint o amser y gallai hyn ei gymryd.

“Pan fyddwch chi’n estyn allan am y tro cyntaf, dyna pryd mae angen y cymorth arnoch chi," meddai.

“Pwy a ŵyr beth sy’n gallu digwydd yn y cyfamser wedyn? Mae’r aros yn achosi mwy o drawma i bobl, mwy o chwalfa i bobl, mwy o bobl yn ceisio eu lladd eu hunain – mwy o bobl yn hunan niweidio cyn bod rhywun yn eu gweld.  

“Dw i wedi bod yn y sefyllfa honno sawl gwaith.”

'Dim byd yn digwydd'

Dywedodd Ms Francis mai’r cyfan y gallai wneud yn ystod y cyfnod y mae'n aros am driniaeth yw “ceisio rheoli pethau cyn iddyn nhw waethygu eto.”

“Ges i ddiagnosis BPD am y tro cyntaf yn 19 oed ac ro’n i’n aros i weld rhywun, ond doedd dim byd yn digwydd, dim llythyr - dim byd," meddai.

"Yna, es i’r brifysgol a mynd yn sâl eto, a chael fy rhoi yn ôl ar y rhestr aros.

“Ar ddechrau 2024, fe lwyddais i ddechrau therapi EDR drwy’r GIG ond erbyn hynny roedd fy mywyd wedi newid ac ro’n i wedi dioddef llawer o bethau eraill, gan gynnwys colli pobl ro’n i’n eu caru. 

“Ro’n i’n ceisio dygymod â chymaint o alar a llawer o deimladau eraill, gan olygu bod y math o therapi ro’n i’n ei gael yn rhy drawmatig. Dywedon nhw wrtha i wedyn y byddai therapi rheoli emosiynau’n well opsiwn, ond does gen i ddim syniad nawr faint o amser mae hynny’n mynd i’w gymryd chwaith."

Disgwyl

Yn ôl Mind Cymru, mae hyd at 7,500 o bobl bob mis ar restrau aros ar gyfer therapïau siarad yng Nghymru, gyda bron i 6,000 o bobl ar gyfartaledd bob mis ers Ebrill 2019.

Roedd yn rhaid i hyd at 3,000 o bobl disgwyl am fwy na chwe mis i ddechrau triniaeth arbenigol ar rai cyfnodau.

Dywedodd bod o leiaf 700 o bobl wedi bod yn aros am 12 mis neu fwy bob mis ers Ebrill 2019, ac ar adegau penodol mae dros 1,300 o bobl wedi bod yn aros am fwy na blwyddyn.

Mae’r elusen bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti ar gyfer therapïau seicolegol arbenigol, a hynny wedi i’r Brif Weinidog Eluned Morgan cyhoeddi y byddai gwasanaethau iechyd meddwl yn “blaenoriaeth” wrth fynd i’r afael ag amseroedd aros cleifion yng Nghymru. 

Mae’r elusen hefyd yn galw am ganllawiau llymach o ran sut mae byrddau iechyd lleol yn adrodd ac yn rhannu data am amseroedd aros a bod y ffigurau hyn yn cael eu cyhoeddi.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cydnabod bod angen rhagor o waith i wella profiadau a faint o amser y mae pobl yn aros. Mae'r Rhaglen strategol ar gyfer Iechyd Meddwl wedi penodi rôl arweinydd clinigol cenedlaethol i gefnogi hyn ac i helpu i wella’r sefyllfa.

“Canfu adolygiad Cymru gyfan o amseroedd aros am therapi seicolegol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fod amrywiaeth o ddulliau ar waith ledled Cymru i gefnogi cleifion sy'n aros am therapïau seicolegol.”

Galw

Daw galwadau Mind Cymru wedi iddyn nhw gysylltu gyda byrddau iechyd lleol Cymru am yr eildro er mwyn cael gafael ar ffigyrau berthnasol. Fe gysylltodd yr elusen am y tro cyntaf yn 2020 ac maen nhw’n dweud bod ychydig iawn o newid sydd wedi bod ers cyn cyfnod y pandemig. 

Dyweodd yr elusen bod y ffigurau ar gyfer mis Hydref 2020 i fis Ebrill 2024 yn dangos bod “amrywiadau mawr o hyd” ar draws byrddau iechyd lleol o ran nifer y bobl fesul y boblogaeth sy’n aros am therapïau seicolegol, a bod canfyddiadau’r adroddiad hwnnw’n dal i fod yn berthnasol i raddau helaeth o hyd.

Mae cyfarwyddwr Mind Cymru, Sue O’Leary wedi herio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella mynediad at therapïau seicolegol i oedolion yng Nghymru, ac mae’n galw am fwy o eglurder o ran ffigyrau byrddau iechyd. 

“Mae pobl ar y rhestrau aros hyn yn byw gyda chyflyrau iechyd meddwl difrifol a pharhaus," meddai.

"Ni ddylai neb fod yn aros mwy na blwyddyn am therapïau seicolegol arbenigol.

“Yn 2015, clustnodwyd £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at therapïau seicolegol fel rhan o’i strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Bron i 10 mlynedd yn ddiweddarach, nid ydym yn ddim nes at wybod a yw’r strategaeth honno’n gweithio ai peidio.

“Pan fydd oedolion yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y driniaeth, mae ansawdd y driniaeth yn dda, ac mae profiadau Kayleigh yn dyst i hyn, ond yr hyn sy’n glir hefyd yw bod galw cynyddol am gymorth ac mae’r system iechyd meddwl yn ei chael yn anodd ateb yr angen hwnnw. 

“Wrth i Lywodraeth Cymru lunio Strategaeth Iechyd Meddwl Ddrafft newydd, rydyn ni mewn perygl o hyd bod yr holl waith da yna’n mynd i wastraff os nad ydyn ni’n cael darlun cywir gan ein Byrddau Iechyd Lleol o’r hyn sy’n digwydd gydag amseroedd aros.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.