Newyddion S4C

Rhybudd melyn am stormydd i'r canolbarth a'r de

Storm Cymru

Fe fydd rhybudd melyn am law trwm a tharanau mewn grym yn y de a rhannau o ganolbarth Cymru ddydd Llun.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 16:00 ac yn dod i ben am 23:59.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai amodau gyrru fod yn anodd oherwydd dŵr ar wyneb rhai ffyrdd.

Mae'n bosib y bydd cenllysg yn disgyn hefyd.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai tai a busnesau gael eu heffeithio gan lifogydd a cholli cyflenwadau trydan.

Mewn rhai mannau fe allai hyd at 40mm o law ddisgyn mewn cyfnod o ddwy i dair awr.

Fe fydd y rhybudd yn effeithio'r siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Cerdeigion
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Benfro
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Torfaen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.