Guto Harri yn achosi cynnwrf trwy gymryd pen-glin yn erbyn hiliaeth

Mae’r darlledwr Guto Harri wedi achosi cynnwrf ymysg rhai o wylwyr GB News wedi iddo gymryd pen-glin mewn undod a thîm pêl-droed Lloegr.
Daw hyn yn dilyn achosion o gam-drin hiliol a ddaeth ar ôl colled Lloegr yng ngêm derfynol yr Euro 2020 dros y penwythnos.
Dywedodd y cyflwynydd nad oeddent wedi sylweddoli faint o hiliaeth sy’n parhau yn y wlad o hyd gan fynnu nad oes lle am hiliaeth “ym Mhrydain fodern”, yn ôl Nation.Cymru.
Gan gyfaddef yr oedd ef ei hunan wedi pendroni pwrpas cymryd pen-glin ar y cae yn y gorffennol dywedodd: “Ond ar ôl gweld pa mor agos at yr wyneb mae hiliaeth ymhlith rhai o gefnogwyr Lloegr, rwy’n deall yn llawn rhesymau’r tîm dros wneud safiad pob tro."
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: GB News