Heddlu yn ymddiheuro ar ôl difa ci XL bully mewn camgymeriad
Mae Heddlu Sir Gaerhirfryn wedi ymddiheuro ar ôl difa ci XL bully mewn camgymeriad.
Cafodd yr anifail anwes o'r enw Bruno ei ddifa, tra roedd ei berchnogion yn y broses o wneud cais i'w eithrio o'r ddeddf sy'n ei gwneud yn drosedd i fod yn berchen ar XL bully.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Sir Gaerhirfryn fod Bruno wedi ei ddifa oherwydd "camgymeriad gweinyddol".
“Fis Awst, fe wnaethon ni gasglu ci XL bully o gyfeiriad ym Morecambe yn rhan o'n pwerau o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus, gan fod cŵn XL Bully wedi eu gwahardd ,” meddai'r datganiad.
“Roedd dogfen yn cael ei pharatoi er mwyn ystyried a ddylai'r perchennog gael ei erlyn.
“Ond yn anffodus, oherwydd camgymeriad gweinyddol, cafodd y ci ei ddifa cyn y gwrandawiad llys.”
Ychwanegodd y llu eu bod wedi cyflwyno proses er mwyn "sicrhau na fydd yr un camgymeriad yn digwydd eto".
Dywedodd Aelod Seneddol Morecambe a Lunesdale, Lizzi Collinge wrth y BBC ei bod yn dymuno atebion.
“Rydw i wedi cysylltu'n uniongyrchol â'r heddlu am hyn,” meddai.
“Cefais sioc o glywed fod Bruno - anifail anwes a oedd yn cael ei garu gan ei deulu - wedi ei ddifa mewn camgymeriad tra yng ngofal yr heddlu.
“Mae proses gyfreithiol yn ei lle pan fo cŵn o dan ofal yr heddlu, ac mae'n ymddangos na chafodd y broses honno ei gweithredu.
“Byddaf yn parhau i gefnogi'r teulu, ac rwy'n galw ar yr heddlu i ddatgelu sut y byddan nhw yn newid eu harferion, er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.”
Llun Llyfrgell - ci XL Bully