Newyddion S4C

Ffrwydradau yn Beirut ar ôl i Israel rybuddio pobol i adael rhan o’r ddinas

Beirut

Mae ymosodiadau tir ac awyr Israel yn ne Libanus yn parhau ddydd Sadwrn.

Dywedodd byddin Israel y bydd "cyrchoedd" pellach yn parhau ar bentrefi yn ne Libanus.

Dywedodd yr IDF wrth bobl mewn gwahanol rannau o Dahieh, cadarnle Hezbollah yn Beirut, i symud o leiaf 500 metr oddi yno.

Mae Israel wedi bod yn ymosod ar y ddinas ers dros wythnos, gan ddweud eu bod yn targedu arweinyddiaeth a seilwaith Hezbollah.

Yng ngogledd Israel, mae seirenau yn parhau a dywedodd Israel fod mwy na 220 o rocedi wedi’u tanio tuag atyn nhw o Libanus.

Yn ôl adroddiadau, mae Saeed Atallah, un o arweinwyr Hamas, wedi ei ladd ynghyd â thri o aelodau ei deulu.

Dywedodd Hamas iddo gael ei ladd mewn ymosodiad gan Israel ar wersyll ffoaduriaid Palesteinaidd yn Tripoli, yng ngogledd Libanus.

Nid yw Israel wedi gwneud sylw am yr ymosodiad hwn eto. Daw ar ôl i Israel ymosod o'r awyr ar brif ffordd sy’n cysylltu Libanus â Syria, wrth i filoedd o bobol geisio ffoi ar y llwybr hwnnw.

Mae byddin Israel yn honni bod Mohammed Rashid Skafi, pennaeth uned gyfathrebu Hezbollah wedi ei ladd yn ystod ymosodiad yn Beirut ddydd Iau

Yn y cyfamser, bydd cyfle i Brydeinwyr yn Libanus adael y wlad ddydd Sul. 

Mae mwy na 250 eisoes wedi gadael ar awyrennau wrth i'r gwrthdaro ddwysáu yn y wlad. 

Mae Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig David Lammy yn annog dinasyddion Prydeinig sy'n awyddus i adael Libanus i gofrestru ar unwaith gyda'r Swyddfa Dramor er mwyn sicrhau sedd ar yr hediad ddydd Sul, gan rybuddio nad oes sicrwydd y bydd opsiynau eraill ar gael. 

Dyma'r pedwerydd hediad i Lywodraeth y Deyrnas ei drefnu o faes awyr Rafic Hariri yn Beirut, wrth i'r sefyllfa ddirywio yn y Dwyrain Canol. 

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.