Newyddion S4C

Ymestyn cynllun taliadau cymorth £500 ar gyfer hunanynysu

13/07/2021
Hunanynysu
NS4C

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn eu cynllun i gefnogi pobl ar gyflogau isel drwy roi £500 iddynt os oes rhaid iddyn nhw hunanynysu tan mis Mawrth 2022.

Cafodd y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu ei agor yn mis Tachwedd 2020 er mwyn helpu pobl a oedd yn wynebu rhwystrau ariannol ar ôl i'r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru ddweud wrthynt hunanynysu. 

Nod y cynllun yw i gefnogi pobl sydd ddim yn gallu gweithio o adref, yn ogystal â rhieni a gofalwyr ar incwm isel sydd â phlant sydd yn hunanynysu. Hyd yn hyn, mae dros 13,200 o daliadau cymorth wedi cael eu rhoi i bobl ers mis Tachwedd 2020.  

Fe fydd £4m ychwanegol ar ben yr £8m sydd eisoes wedi cael ei benodi yng Nghronfa Galedi Llywodraeth Leol ar gyfer ymestyn y cynllun. 

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans: “Mae’r taliadau hyn yn hanfodol i unrhyw un y mae’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi dweud wrthynt fod rhaid hunanynysu, ond a allai ddioddef caledi ariannol o ganlyniad i orfod aros gartref a methu gweithio.

“Yr awdurdodau lleol sy’n gweinyddu’r cynllun, sy’n cynnwys elfen yn ôl disgresiwn i allu rhoi cymorth i’r rheini sydd â’r angen mwyaf.”

Yn ogystal â’r taliad cymorth o £500, mae cynlluniau peilot, gan gynnwys canolfannau Cymorth Covid-19, wedi cael eu sefydlu i gynnig mwy o gymorth i bobl a fyddai’n ei chael yn anodd yn ystod cyfnod hunanynysu.

Mae’r cynlluniau hyn wedi cael eu gweithredu yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, er mwyn helpu i ddarparu cymorth ychwanegol i bobl, megis bwyd, eitemau hanfodol, cymorth iechyd meddwl, a chyngor ariannol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae mor bwysig bod pobl yn hunanynysu os ydyn nhw’n cael prawf positif am COVID-19 gan fod hyn yn helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

“Mae’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi rhoi cefnogaeth werthfawr i bobl sydd wedi cael prawf positif, a’r bobl sydd wedi dod i gysylltiad â nhw, drwy ddarparu cyngor, arweiniad, a chymorth. Mae’n bwysig parhau i fuddsoddi er mwyn inni allu helpu’r rheini sydd â’r angen mwyaf.

“Rydym wedi llunio canllawiau i sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn gallu cael gafael ar gyllid i ddarparu cymorth sydd wedi ei deilwra i fodloni anghenion pobl, gan gynnwys llety amgen dros dro i’r rheini na allan nhw hunanynysu’n ddiogel nac mewn modd effeithiol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.