Llofrudd Lynette White yn gwneud cais arall i gael ei ryddhau o'r carchar
Bydd llofrudd un o’r achosion amlycaf yr 1980au yn gwneud cais arall i gael ei ryddhau o'r carchar ddydd Iau.
Fe gafodd Lynette White, 20 oed o Gaerdydd, ei thrywanu fwy na 50 o weithiau yng Nghaerdydd ar Ddydd San Ffolant 1988, ond ni chafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu tan 2003.
Yn lle hynny, yn 1990, fe gafodd tri dyn arall – Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris – eu carcharu am oes ar gam am y drosedd cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau gan y Llys Apêl ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Fe gafodd Gafoor ei garcharu am oes gyda gorchymyn iddo dreulio o leiaf 13 mlynedd dan glo. Daeth y cyfnod yna i ben yn 2016.
Bydd ei chweched gwrandawiad parôl yn cael ei gynnal y tu ôl i ddrysau caeedig ddydd Iau.
Gwrthodwyd tri chais i’r gwrandawiad fod yn gyhoeddus, gyda’r bwrdd parôl yn dweud nad oedd yn “briodol” gan y byddai’n asesu “risg presennol”.
Ym mis Ionawr 2023, fe gafodd Gafoor ei ryddhau am ddiwrnod o’r carchar, ond nid yw’r llofrudd wedi ei ryddhau ar barôl eto.
Y cefndir
Yn dilyn llofruddiaeth Ms White, a oedd yn weithiwr rhyw yn y brifddinas, dywedodd ditectifs eu bod yn chwilio am ddyn gwyn.
Ond fe gafodd pump o ddynion du a hil gymysg eu harestio a’u cyhuddo o'r drosedd cyn i’w heuogfarnau gael eu dileu gan y Llys Apêl.
Ni chafodd Gafoor ei ddal hyd nes fod datblygiadau mewn technoleg DNA wedi dod ar gael.
Fe blediodd Gafoor yn euog o'i llofruddio mewn ffrae dros £30.
Llun: Heddlu'r De / PA