Newyddion S4C

Storm Helene: Mam o Sir Benfro yn 'dal i grynu' ar ôl dychwelyd adref o'r Unol Daleithiau

02/10/2024
Eiry Bellis/Storm Helene

Mae mam o Sir Benfro yn dweud ei bod hi'n “dal i grynu” ar ôl dychwelyd adref wedi iddi brofi difrod storm Helene yn yr Unol Daleithiau. 

Roedd Eiry Wyn Bellis, 46 oed o Feigan Fach ger Crymych wedi gwario dros £10,000 er mwyn teithio i ddinas Asheville yn nhalaith Gogledd Carolina nos Fercher diwethaf, a hithau’n edrych ymlaen at fod yn forwyn briodas i ffrind o’r coleg sy’n wreiddiol o’r Unol Daleithiau. 

Ond yn hytrach ‘na chyfnod llawn dathlu, roedd y dyddiau a dreuliodd hi yn ôl yn y wlad ble gafodd hi ei haddysg uwch yn “drawmatig,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C. 

Mae dros 100 o bobl wedi marw yn sgil difrod a llifogydd Helene yn ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau dros yr wythnos diwethaf, ac mae miliynau o bobl wedi treulio cyfnodau heb bŵer. 

Roedd yr athrawes o Ganolfan Iaith Abergwaun ymhlith y rheiny oedd wedi profi’r “hunllef” o geisio goroesi’r trychineb, gan ddweud  bod y profiad yn debyg i “wylio disaster movie fy hunan.” 

A hithau bellach wedi dychwelyd adref nos Fawrth, dywedodd: “Mae fy adrenalin i dal yn fynd, mae dŵr ‘da fi wrth fy ochr trwy’r amser, os mae ‘na fwyd mae’n cadw at wedyn jyst rhag ofn – cadwa’i fe nawr jyst rhag ofn.

“Mae 'mhen i dal yn yr awyren, mae 'mhen i dal ‘da’r dŵr. Dwi dal yn gallu gwynto’r gwynt a’r sŵn a’r seirens, a’r seirens a’r seirens dim stop, a’r golau’n fflachio. 

“Fi dal yn crynu, fi ffaeli stopo crynu,” meddai.

Image
Storm Helene
Llun: Eiry Wyn Bellis

'Roedd potel o ddŵr fel aur'

Roedd Eiry Bellis yn aros mewn gwesty yn Asheville. Fe dreuliodd hi'r mwyafrif o’i hamser yno heb gyflenwad dŵr na bwyd. 

Gyda llifogydd o’r afon gyfagos, doedd dim cyflenwad trydan na chysylltiad i’r we chwaith, a doedd dim modd iddi gysylltu gyda’i theulu adref am rai dyddiau. 

“Roedd potel o ddŵr fel aur,” meddai. 

Dywedodd bod silffoedd siopau yn wag, ac roedd pobl yn cael problemau wrth geisio prynu nwyddau oherwydd roedd y rhan fwyaf o fusnesau dim ond yn derbyn arian parod ar y pryd.  

Ond roedd y fam i ddwy yn benderfynol o fod yn “humble ac yn garedig” a roedd hi’n rhannu'r hyn oedd ganddi gyda phobl eraill oedd hefyd mewn angen – gan gynnwys ei hystafell gwely. 

Roedd Ms Bellis hefyd wedi achub y cyfle i dynnu lluniau, ac mae ei ffotograffiaeth wedi cael ei rhannu gyda miloedd o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn. 

Image
Llun: Eiry Wyn Bellis
Llun: Eiry Wyn Bellis

'Siom'

Fe lwyddodd Ms Bellis ddychwelyd adref nos Fawrth wedi iddi deithio o faes awyr Atlanta i Amsterdam, gan gael  awyren arall i faes awyr Caerdydd. 

Dywedodd ei bod wedi profi’r “gorau” gan bobl oedd o’i chwmpas ar y pryd, ond y “gwaethaf o’r un" yr oedd hi’n ei hadnabod. 

Doedd ei ffrind o’r Unol Daleithiau ddim wedi cysylltu na cheisio helpu Ms Bellis tra oedd hi’n aros yn Asheville, meddai. Cafodd wybod bod ei phriodas wedi cael ei gynnal adeg oedd Ms Bellis yn y wlad, ar ôl iddi weld negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod ei thaith adref. 

“O’n i’n disgwyl ‘mlaen i’r briodas ‘ma yn fawr. Es i mas ‘na gydag un pwrpas a dwi ‘di dod mas yn gryfach person ‘to.

“Fi ‘di cael siom, oedd hi’n ffrind da i fi a dwi ‘di cael siom,” meddai. 

Image
Llun: Eiry Wyn Bellis
Llun: Eiry Wyn Bellis

'Diolchgar'

Ond mae Eiry Bellis hefyd yn ddiolchgar am y bobl yr oedd hi wedi cyfarfod yn ystod ei chyfnod yn Asheville, meddai. 

Erbyn nos Sul, roedd y rhan fwyaf o bobl wedi “dianc” o’r gwesty. Ms Bellis oedd yr unig westai ar ôl yno, a hithau’n rhannu’r lloches gyda swyddogion yr heddlu. 

Roedd swyddogion o gwmni Starlink – sef un o gwmnïoedd Space X y dyn fusnes Elon Musk – yn aros yn y gwesty hefyd, a rheiny’n darparu cysylltiad i’r we ar gyfer pobl leol. 

Dywedodd: “’Odd e ‘di bod yn drawmatig, oedd e ‘di bod yn hunllefus, oedd e’n brofiad anhygoel i gwrdd â shwd gymaint o ddieithriaid diddorol, caredig. 

“Yr heddlu oedd yn gweithio ac yn gweld nhw wedi gwisgo lawr yn eu pyjamas a’r straen ar eu wynebau nhw, a’r boi o Starlink oedd wedi dod mewn i helpu – pob cymeriad allet ti ddychmygu gweld mewn ffilm, o’n i ‘di dod ar draws nhw.” 

Roedd yn rhaid iddi deithio pedair awr i’r maes awyr yn Atlanta, ac fe ddisgrifiodd hi ei gyrrwr tacsi, Matthew, yn “angel” yn ogystal.  

Dyw Ms Bellis ddim yn siŵr sut y bydd hi’n medru “prosesu hyn a dod 'nôl i gael y merched yn barod am yr ysgol,” meddai, ond mae’n falch o fod adref gyda’i gwr, Dan, a’i dwy ferch, Megan-Wyn, 8 oed ac Erin-Medi, 5 oed. 

Image
Llun: Eiry Wyn Bellis

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.