Neil Foden: Dyfarniad yn erbyn Cyngor Gwynedd mewn cais Rhyddid Gwybodaeth
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi dyfarnu o blaid cwyn yn erbyn Cyngor Gwynedd mewn cais am wybodaeth am y cyn-bennaeth ysgol Neil Foden.
Cafodd y pedoffeil ei garcharu am 17 o flynyddoedd ddechrau mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gamdrin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd.
Yn dilyn ei achos llys ar 15 Mai, fe wnaeth newyddiadurwyr o Newyddion S4C anfon cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn am wybodaeth oedd gan Gyngor Gwynedd am Mr Foden, ei gyflogaeth a chwynion amdano.
Cafodd y cais ei wneud ar 22 Mai eleni ac mae gan gyrff cyhoeddus 20 diwrnod gwaith i ymateb.
Hyd heddiw nid yw Newyddion S4C wedi derbyn ymateb i'r cais am wybodaeth, er i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth orchymyn Cyngor Gwynedd ar 29 Awst i ymateb o fewn 10 diwrnod i'r dyddiad hwnnw.
Mae penderfyniad y swyddfa ddydd Llun yn golygu bod rhaid i Gyngor Gwynedd ddarparu “ymateb o sylwedd” o fewn 30 diwrnod neu wynebu cyhuddiad posib o ddirmyg llys.
Cais am ohebiaeth
Roedd Newyddion S4C wedi gofyn i'r cyngor yn y cais am bob gohebiaeth rhwng un o uwch swyddogion y cyngor a'r cyn-bennaeth addysg Garem Jackson rhwng Mai a Mehefin 2019 lle'r oedd unrhyw gwynion a honiadau yn erbyn Neil Foden yn cael eu trafod.
Roedd pryderon am ymddygiad Neil Foden wedi dechrau yn ystod y cyfnod yma.
Roedd y cais hefyd yn gofyn am unrhyw ohebiaeth rhwng y ddau swyddog cyngor mewn cyfnod rhwng dechrau Medi a Hydref 2023.
Cafodd Foden ei gyhuddo ym mis Medi o'r flwyddyn honno.
Cwestiwn arall yn y cais Rhyddid Gwybodaeth i'r cyngor oedd cais am unrhyw ohebiaeth rhwng Mr Jackson a deilydd y portffolio addysg ar gabinet y cyngor oedd yn trafod Neil Foden o ddechrau Medi hyd at ddechrau Hydref 2023.
Roedd Newyddion S4C am gael gwybod hefyd beth oedd dyddiad ymddiswyddiad Neil Foden fel pennaeth, ac os na wnaeth ymddiswyddo ond cael ei ddiswyddo, beth oedd dyddiad y diswyddo hwnnw?
Gofynnodd Newyddion S4C i'r cyngor hefyd os oedd Neil Foden wedi cael cadw ei bensiwn yn dilyn ei euogfarn?
Dyfarniad
Mewn dyfarniad i Newyddion S4C yn amlinellu eu penderfyniad am y gŵyn, dywedodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
"Yn seiliedig ar dystiolaeth sydd ar gael i’r Comisiynydd, erbyn dyddiad yr hysbysiad hwn nid yw’r awdurdod cyhoeddus wedi cyhoeddi ymateb o sylwedd i’r cais hwn.
"Felly mae’r Comisiynydd yn canfod toriad o adran 10."
O ganlyniad i'r penderfyniad mae gan Gyngor Gwynedd 30 diwrnod i roi "ymateb o sylwedd" i Newyddion S4C, meddai Swyddfa'r Comisiynydd:
"Rhaid i’r awdurdod cyhoeddus ddarparu ymateb o sylwedd i’r cais yn unol â’i rwymedigaethau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
"Rhaid i’r awdurdod cyhoeddus gymryd y cam hwn o fewn 30 diwrnod calendr i ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad.
"Gall methu â chydymffurfio arwain at y Comisiynydd yn ardystio’r ffaith hon yn ysgrifenedig i’r Uchel Lys yn unol ag adran 54 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a gellir ymdrin ag ef fel dirmyg llys."
Mae gan Gyngor Gwynedd hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad.