'Dim ond un Dewi Pws': Rhaglen arbennig i gofio un o eiconau’r genedl
Fe fydd cewri’r byd perfformio yn rhoi teyrnged i'r actor, cerddor ac awdur Dewi 'Pws' Morris mewn rhaglen deledu arbennig ar S4C.
Bydd Cofio Dewi Pws yn cael ei darlledu am 21:00 nos Sul ac yn cynnwys rhai o wynebau mwyaf adnabyddus y wlad.
O’r byd actio i’r cyfryngau, fe fydd enwogion gan gynnwys yr actorion Emyr Wyn a Sharon Morgan, y cerddorion Caryl Parry Jones, Dafydd Iwan, Hefin Elis a Cleif Harpwood, a’r darlledwr a’r sylwebydd rygbi Huw Llywelyn Davies yn adrodd hanes yr eicon cenedlaethol.
Bu farw Dewi Pws yn 76 oed ar 22 Awst eleni.
Ag yntau’n gyd-aelod iddo yn y band Edward H Dafis, dywedodd Cleif Harpwood: "Roedd Dewi yn un o'r bobl 'na 'y chi mond yn dod ar eu traws nhw unwaith falle yn eich bywyd.
“Fyddai'n ei gofio fe fel cyfaill, fel brawd... byddai'n gweld ei ishe fe yn fawr iawn."
Dywedodd yr actores Sharon Morgan: "Roedd ei greadigrwydd e fel bardd, fel cerddor, fel actor i gyd wedi gwreiddio yn y gwleidyddiaeth Cymreig yna a'i fod e'n caru Cymru, ishe dyfodol i Gymru ac yn casáu anghyfiawnder.
“Ond yn gwneud hyn i gyd mewn ffordd ysgafn gyda gwên ar ei wyneb."
Ychwanegodd ei gyfaill Huw Llywelyn Davies: “Alla'i byth ddychmygu bod e wedi mynd, achos i fi nath Dewi Pws byth dyfu lan, heb sôn am ein gadael ni."
Gyrfa
Fel aelod o'r bandiau blaenllaw Y Tebot Piws ac Edward H Dafis, daeth Dewi Pws i amlygrwydd cenedlaethol fel cerddor, ag yntau wedi sichrau buddugoliaeth yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ym 1971 gyda'r gân Nwy yn y Nen.
Ond gyda dawn actio a direidi naturiol gwnaeth ei farc ar sawl cynhyrchiad eiconig ar lwyfan, fel y cymeriad Y Brenin Ri yn Nia Ben Aur, yn ogystal ag ar y sgrîn.
Roedd yn wyneb adnabyddus fel Wayne Harries, un o gymeriadau cyntaf yr opera sebon Pobol y Cwm o 1974 i 1987, ac fel aelod o gast y ffilm gomedi Grand Slam ym 1978.
Byddai sawl cenedlaeth o blant Cymru hefyd yn ei gofio'n gynnes fel y Dyn Creu yn y gyfres Miri Mawr ac fel Islwyn Morgan yn yr opera sebon Rownd a Rownd.
Yn genedlaetholwr wrth reddf, gwnaeth Dewi gyfraniad enfawr i Gymru a Chymreictod hefyd, gan ymgyrchu yn gyson dros yr iaith.