Dadorchuddio cerflun newydd i anrhydeddu'r Arglwyddes Rhondda
Mae cerflun newydd i anrhydeddu Arglwyddes Rhondda wedi cael ei ddadorchuddio yn ei thref enedigol.
Fe gafodd Margaret Haig-Thomas ei magu yng Nghasnewydd ac roedd yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod.
Fe arweiniodd ymgyrch 40 mlynedd i ganiatáu i fenywod eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ond bu farw ychydig cyn i’r gyfraith gael ei newid.
Y cerflunydd Jane Robbins oedd yn gyfrifol am greu'r cerflun, sef y pedwerydd mewn cyfres o bump sy'n anrhydeddu arwresau Cymru.
Fe ddaeth y syniad i greu cerflun gan grŵp o fenywod yng Nhasnewydd oedd wedi llwyddo i gael plac glas o'r Arlgwyddes Rhondda yn 2015.
Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus i godi dros £85,ooo, fe roddodd y cyngor sêl bendith i'r cynllun i godi cerflun efydd wyth troedfedd o daldra.
Fe gafodd y cerflun, sydd wedi ei lleoli ar ochr ddwyreiniol Pont Droed y Mileniwm yng nghanol dinas Casnewydd, ei ddadorchuddio ddydd Iau.
Cylch dwylo
Mae'r cerflun yn cynnwys cylch o ddwylo sydd wedi’u castio o ddwylo tua 40 o fenywod heddiw, gan gynnwys bywgraffydd Arglwyddes Rhondda Angela V John, yr Athro hanes Olivette Otele, a'r pêl-droediwr Helen Ward.
Ganed yr Arglwyddes Rhondda ym 1883, yn ferch i'r gwleidydd Rhyddfrydol a'r dyn busnes Is-iarll David Thomas a'r swffragét, Sybil Haig.
Gan ei bod yn fenyw freintiedig, bu’n ymgyrchu gyda’r swffragét Emmeline Pankhurst dros yr hawl i fenywod gael pleidleisio.
Fe heriodd y Prif Weinidog Asquith, a oedd yn erbyn ei hymgyrch, trwy neidio ar ei gar, a cheisiodd ddinistrio blwch post gyda bom cemegol.
Fe gafodd ei hanfon i garchar Brynbuga, Sir Fynwy, o ble cafodd ei rhyddhau ar ôl mynd ar streic newyn.
Fe etifeddodd teitl ei thad yn dilyn ei farwolaeth yn 1918, ond ni chafodd eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Bu farw yn 1958, ychydig fisoedd cyn i'r merched cyntaf gymryd eu seddi yno.
Cyfres o gerfluniau
Dyma'r pedwerydd o bum cerflun i gael ei godi yn dilyn ymgyrch i anrhydeddu arwresau Cymru.
Mae cerfluniau eisioes wedi cael eu codi i anrhydeddu Betty Campbell, prifathro du cyntaf Cymru, a'r dramodydd Elaine Morgan.
Mae cerflun o’r Prifardd Cranogwen, y ddynes gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, hefyd wedi’i ddadorchuddio.
Bydd y cerflun olaf yn y gyfres yn anrhydeddu Elizabeth Andrews, un o ymgyrchwyr gwleidyddol mwyaf dylanwadol Cymru ar ddechrau’r 20fed Ganrif.
Llun: Statue for Lady Rhondda