
O wreichion trychineb: Cryfhau'r cwlwm rhwng Cymru ac Alabama
Cafodd y cwlwm hanesyddol a gododd o drychineb yn ystod 60au'r ganrif ddiwethaf ei gryfhau rhwng Cymru a thref Birmingham, Alabama, yr wythnos hon.
Mae cynrychiolwyr o Birmingham wedi ymweld â Chymru fel rhan o gytundeb i adeiladu ar y cyfeillgarwch hanesyddol rhwng y ddinas a Chymru.
Daw’r ymweliad wedi i Lywodraeth Cymru a Dinas Birmingham lofnodi Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol y llynedd.
Dechreuodd y berthynas rhwng Cymru a Birmingham yn sgil digwyddiadau trasig ar 15 Medi, 1963.
Ar un o'r dyddiau tywyllaf yn hanes America fodern, cafodd pedair merch ysgol eu lladd mewn ymosodiad bomio hiliol yn Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street.
Daeth y foment hon yn ganolog i'r mudiad hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau.
Ffenestr
Yn dilyn y drasiedi, cyfrannodd pobl ar draws Cymru eu newid mân drwy ymgyrch gan y Western Mail i godi arian i dalu am ffenestr liw i gymryd lle un a ddinistriwyd yn yr Eglwys.
Cafodd y 'Wales Window' ei dylunio gan yr artist o Gymru, John Petts, a’i chyflwyno i Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street ym 1965. Gyda’i phortread o Grist du ar y groes, roedd y ffenestr yn symbol i'r gynulleidfa fod pobl o bob cwr o'r byd yn gwybod am eu dioddefaint a'u haberth, ac yn meddwl amdanynt.
Y llynedd, i nodi 60 mlynedd ers y bomio, cyflwynodd Llywodraeth Cymru bedair coeden, er cof am y pedair merch a fu farw.

Mae’r coed wedi’u plannu ym Mharc Kelly Ingram, ger yr eglwys. Yn rhodd ganddyn nhw, cyflwynodd Maer Birmingham Sêl y Ddinas i Lywodraeth Cymru.
Mae'r ymwelwyr yr wythnos hon yn cynnwys chwiorydd y pedair merch, gweinidog yr eglwys, unigolyn a fu'n ymgyrchu fel plentyn i'r mudiad hawliau sifil, yn ogystal ag arweinwyr gwladol, llywodraeth leol a phobl busnes.
Goroesi
Un o'r cynrychiolwyr yw Sarah Collins Rudolph. Goroesodd Sarah y bomio, ond lladdwyd ei chwaer bedair ar ddeg oed, Addie Mae.
Dywedodd Sarah: "Mae'r cwlwm rhwng Birmingham a Chymru wedi golygu cymaint i mi a sawl un arall a gafodd eu heffeithio ar y diwrnod ofnadwy hwnnw yn 1963.
"Dangosodd rhodd y Wales Window i ni fod pobl yr ochr draw i'r môr yn meddwl amdanom yn ein poen ac yn credu mewn dyfodol o obaith ac undod.
"Nawr, wrth sefyll yma heddiw, rwy'n cael yr un ymdeimlad o undod, gan wybod bod ein cyfeillgarwch yn dal i fynd o nerth i nerth.
"Rwy'n ddiolchgar i Birmingham Sister Cities a Llywodraeth Cymru am ddod â ni at ein gilydd fel hyn, gan ein helpu i gofio'r gorffennol wrth i ni adeiladu dyfodol mwy disglair."
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Mae'n bleser croesawu'r cynrychiolwyr o Birmingham Alabama i Gymru yr wythnos hon. Mae'n amlwg bod y cwlwm rhyngom wedi cryfhau dros amser ac yn ffynnu heddiw, gan roi cyfleoedd pellach i ni gydweithio.
"Rwy'n falch bod pobl Cymru wedi dod ynghyd ac wedi estyn allan at gymuned Birmingham yn eu dyddiau tywyllaf, gan gymryd camau yn erbyn hiliaeth a chynnig rhodd gwirioneddol a symbolaidd o undod a heddwch.
"Mae'r Wales Window wedi bod yn sylfaen i'n cyfeillgarwch a bydd yn ein hatgoffa o undod a gobaith am genedlaethau i ddod."