Newyddion S4C

'Dyn drwg': Cyn bennaeth uned gwarchod y teulu brenhinol wedi 'rhybuddio'r palas' am Mohamed Al Fayed

Newyddion S4C

'Dyn drwg': Cyn bennaeth uned gwarchod y teulu brenhinol wedi 'rhybuddio'r palas' am Mohamed Al Fayed

Mae cyn bennaeth uned gwarchod y teulu brenhinol gyda Heddlu'r Met yn dweud iddo rybuddio'r palas am y gŵr busnes Mohamed Al Fayed yn yr 1990au.

Ers marw'r llynedd, mae mwy na 200 o ferched wedi ei gyhuddo o dreisio neu ymosod yn rhywiol.

Yn ôl Dai Davies, fu'n gyfrifol am warchod aelodau'r teulu brenhinol rhwng 1994-1998 roedd yn ymwybodol fod gan Al Fayed "enw drwg" a'i fod wedi rhybuddio swyddogion y teulu brenhinol ei fod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu ar fater arall.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Dai Davies fod ganddo bryderon am yr ymchwiliad gwreiddiol i honiadau o gam-drin rhywiol a wnaed yn erbyn Al Fayed a phenderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio a'i erlyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Met fod "bob honiad" wedi bod yn destun ymchwiliad ond "nad oedd modd cyflwyno cyhuddiadau".

Fe wnaeth Mr Davies gwrdd ag Al Fayed ar un achlysur yn Harrods gan ei ddisgrifio fel dyn "sleezy ac arrogant."

"Y sïon fel oeddwn i’n dallt oedd bod o'n licio merched ifanc oedd yn gweithio yn Harrods a bod o wedi twtshiad nhw inappropriately".

'Brenhines yn ymwybodol' am bryderon

Yn ôl Dai Davies mi wnaeth o gysylltu gyda swyddogion y teulu brenhinol i godi pryderon fod uned droseddol ddifrifol y Met yn ymchwilio i Mohamed Al Fayed am dorri mewn i flwch cudd gŵr busnes arall, Tiny Rowland oedd yn cael ei gadw yn Harrods.

Fe arweiniodd yr honiadau hyn at Al Fayed ac eraill yn cael eu harestio ym mis Mawrth 1998 ond ni chafodd ei gyhuddo.

Ym 1997, fe aeth y Dywysoges Diana ar wylia gyda Mohammed Al Fayed i St Tropez gan fynd â’r tywysogion William a Harry gyda hi.

"Roedd gennai bryderon bod o [Al Fayed] yn destun ymchwiliad a bod hi [Tywysoges Diana] yn mynd a'r bechgyn ar wylia gyda dyn oedd yn ddrwg", dywedodd Dai Davies.

Wrth godi pryderon, dywedodd Mr Davies i un o swyddogion y Palas ddod nôl ato gan ddweud fod y "frenhines yn ymwybodol".

Dywedodd iddo beidio codi pryderon penodol am yr honiadau o gamymddwyn rhywiol ar y pryd gan nad oedd ganddo unrhyw dystiolaeth ac nad oedd merched wedi gwneud honiadau'n gyhoeddus eto.

Dywedodd Palas Buckingham na fydda nhw'n ymateb i'r sylwadau hyn.

'Cwestiynau mawr'

Fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ystyried ddwywaith erlyn y cyn berchennog Harrods ond gan ddod i'r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth.

Yn ôl Mr Davies mae angen codi cwestiynau am yr hyn ddigwyddodd gan ddweud y gallai hynny ddigwydd ar ffurf ymchwiliad cyhoeddus.

"Dwi ddim yn deall pam nath y CPS ddim charjio fo", meddai.

"Dwisho gofyn pwy oedd yn gyfrifol, pwy nath weld tystiolaeth y merched a pham nad oedd na ddigon o evidence i proceedio.

"Mae 'na gwestiynau mawr i'r CPS achos dwi'n clywed yn rhy aml yn fy marn i, 'there's not enough evidence'.

"Dwi eisiau gweld y merched yn cael justice, dio ddim ots pa ffordd ac os [ymchwiliad cyhoeddus] ma'n cymryd' i hynny ddigwydd...”

Image
Mohamed Al Fayed
Mohamed Al Fayed yn 2015. (Llun: Wochit)

Mewn datganiad fe ddywedodd Heddlu'r Met eu bod yn ymwybodol o nifer o honiadau a wnaed dros y blynyddoedd yn erbyn Mohamed Al Fayed.

"Roedd bob un o'r honiadau hyn yn destun ymchwiliad a phan yn addas fe gawsom gyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron," medden nhw.

"Ni chafodd unrhyw gyhuddiadau eu cyflwyno wedi'r ymchwiliadau hyn.

"Fel gydag unrhyw ymchwiliad os daw rhagor o dystiolaeth i'r fei mi fyddwn yn asesu ac yn ymchwilio os oes angen."

Fe ddywedodd y Met ddydd Iau eu bod yn annog rhywun un sydd yn honni i Al Fayed eu cam-drin gysylltu a swyddogion.

Wrth ymateb dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod y nifer o ferched sydd yn gwneud mwy o honiadau yn “bryderus iawn”.

“Fe ddaeth erlynwyr i gasgliad nol yn 2008  a 2015 ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth nad oedd digon i sicrhau erlyniad a ni chafodd unrhyw gyhuddiadau eu cyflwyno.

“Rydym yn gweithio er mwyn creu darlun cyflawn o’r holl honiadau ac rydym eisiau sicrhau i’r cyhoedd ein bod am weld cyfiawnder yn y nifer uchaf o achosion o gam-drin rhywiol a thrais ag sydd yn bosib."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.