Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Y Seintiau Newydd yn gobeithio osgoi mwy o siom

Sgorio 27/09/2024
Dan Williams Y Seintiau Newydd

Roedd hi’n wythnos o ganlyniadau annisgwyl yn y Cymru Premier JD gyda Phen-y-bont yn dechrau’r cyfan drwy guro’r Seintiau Newydd nos Wener ddiwethaf.

Yna’n rhyfeddol fe gollodd y Seintiau eto nos Fawrth gyda’r Bala’n ennill oddi cartref yn Neuadd y Parc am y tro cyntaf erioed.

Ond methodd Pen-y-bont a manteisio gan i hogiau Rhys Griffiths ddod y tîm cyntaf i golli yn erbyn Llansawel y tymor hwn, a’r newydd-ddyfodiaid yn dringo oddi ar waelod y tabl ar draul Aberystwyth sydd wedi llithro i’r 12fed safle.

Hwlffordd (4ydd) v Met Caerdydd (2il) | Nos Wener – 19:45

Wedi i Ben-y-bont faglu yn erbyn Llansawel, mae Met Caerdydd yn ôl yn hafal ar bwyntiau gyda’r ceffylau blaen yn dilyn eu buddugoliaeth oddi cartref yn Aberystwyth nos Fawrth.

Mae Met Caerdydd yn mwynhau tymor campus, ac ond wedi colli unwaith mewn 11 gêm ym mhob cystadleuaeth yn 2024/25.

Dyw Hwlffordd ddim yn gwneud yn ffôl chwaith, a does neb wedi ildio llai o goliau na’r Adar Gleision hyd yma (4 gôl mewn 9 gêm) gan gadw pum llechen lân.

O ystyried bod Hwlffordd yn gorfod chwarae eu gemau cartref yng Nghaerfyrddin, mae tîm Tony Pennock mewn safle arbennig ac yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm.

Dyw’r Adar Gleision heb orffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle gyda dim ond Y Seintiau Newydd, Y Rhyl a Bangor yn gorffen uwch eu pennau y flwyddyn honno.

Di-sgôr oedd hi’n y gêm gyfatebol ym mis Awst ac mae’r pum ornest ddiwethaf rhwng y ddau dîm yma wedi gorffen yn gyfartal ar ôl 90 munud, felly mae’n addo i fod yn frwydr agos unwaith eto ar Barc Waun Dew.

Record cynghrair diweddar:

Hwlffordd: ➖✅❌❌✅➖

Met Caerdydd: ͏✅✅❌✅✅

Y Barri (8fed) v Aberystwyth (12fed) | Nos Wener – 19:45

Ar ôl rhediad siomedig o chwe cholled yn olynol yn y gynghrair dyw hi ddim yn syndod bod Aberystwyth wedi syrthio i waelod y domen.

Dyma’r tro cyntaf ers Rhagfyr 2020 i Aberystwyth golli chwe gêm gynghrair yn olynol, a dyw’r clwb o Geredigion erioed wedi colli saith yn olynol yn y Cymru Premier JD.

Mae’r Barri’n eistedd yng nghanol y tabl, a’r Dreigiau yw meistri y gemau cyfartal gyda’u dwy gêm ddiwethaf yn gorffen yn 1-1 (wyth o’u 17 gêm gynghrair ddiwethaf wedi gorffen yn 1-1).

Aberystwyth oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ym mis Awst gyda Jonny Evans yn rhwydo unig gôl y gêm yn unig fuddugoliaeth y Gwyrdd a’r Duon yn y gynghrair y tymor yma.

Record cynghrair diweddar:

Y Barri: ✅✅❌➖➖

Aberystwyth: ͏❌❌❌❌❌

Y Drenewydd (5ed) v Y Seintiau Newydd (6ed) | Nos Wener – 19:45

Mae hi wedi bod yn gyfnod sigledig i’r Seintiau Newydd sydd wedi colli dwy gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers pum mlynedd. 

Cyn y golled yn erbyn Y Bala nos Fawrth doedd y Seintiau heb golli gartref yn y Cymru Premier JD ers Mawrth 2022, ac hynny yn erbyn Y Drenewydd.

Ond ers y golled honno dyw tîm Craig Harrison heb golli mewn 10 gêm yn erbyn y Robiniaid gan ennill eu wyth gornest ddiwethaf ac ildio dim ond dwy gôl.

Mae’r Drenewydd wedi cael dechrau taclus i’r tymor ac unwaith eto Aaron Williams sy’n darparu’r goliau i’r garfan ac yn eistedd ar frig rhestr prif sgorwyr y gynghrair yn hafal â Ollie Hulbert (Barri) gyda phum gôl yr un.

Pe bae’r Drenewydd yn gallu dilyn olion traed Pen-y-bont a’r Bala a churo’r Seintiau Newydd, yna byddai’r clwb o Groesoswallt yn wynebu colli tair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers Rhagfyr 1997 pan gollon nhw bedair yn olynol yn erbyn Inter CableTel, Cwmbrân, Y Barri a’r Drenewydd.

Record cynghrair diweddar:

Y Drenewydd: ͏❌✅✅➖➖

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅❌❌

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.