Newyddion S4C

Y ddaear yn cael ‘ail leuad’ am rai misoedd medd gwyddonwyr

26/09/2024
Lleuad

Bydd y ddaear yn cael “ail leuad” am rai misoedd o ddiwedd mis Medi, meddai gwyddonwyr.

Bydd asteroid bychan yn cael ei gipio gan ddisgyrchiant y ddaear am gyfnod cyn dianc unwaith eto rhwng 29 Medi a 25 Tachwedd eleni.

Cafodd yr asteroid ‘2024 PT5’ ei weld gan wyddonwyr NASA ar 7 Awst.

Mae’r asteroid tua 32 troedfedd o hyd gan olygu y bydd angen telesgop arbennig i’w weld.

Dywedodd y seryddwr Dr Jennifer Millard wrth raglen Today y BBC na fydd yr asteroid yn “cwblhau un tro cyfan o amgylch y ddaear”.

“Mae’n mynd i newid ei orbit, troelli ychydig ac yna bydd yn parhau ar ei ffordd yn llawen,” meddai.

“Mae’n amlygu pa mor brysur yw cysawd yr haul a faint sydd allan yna nad ydym wedi ei ddarganfod, oherwydd dim ond eleni y daeth gwyddonwyr o hyd i’r asteroid hwn.”

Mae disgwyl i ‘2024 PT5’ ddychwelyd eto yn 2055.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.