Newyddion S4C

Gefeilliaid o Wynedd yn ymuno â'r heddlu yn dilyn marwolaeth eu tad

25/09/2024
Elin a Lisa Jones

Mae gefeilliaid o Wynedd wedi dechrau eu gyrfaoedd fel swyddogion heddlu ar ôl cael eu hysbrydoli gan ddau heddwas oedd yn gysur iddynt wedi i'w tad farw.

Doedd Elin a Lisa Jones o Fryncir ger Penygroes "erioed wedi breuddwydio" bod yn heddweision.

Ond newidiodd hynny ar ôl i'w tad farw o drawiad ar y galon pan oedd y ddwy yn wyth oed.

"’Dwi’n dal i gofio dau swyddog heddlu bendigedig yn ein cysuro ni ar yr adeg fwyaf anodd yn ein bywydau," meddai Lisa.

“Cyn hynny, roeddwn i wedi meddwl bod swyddogion heddlu i’w hofni, ond o’r diwrnod hwnnw ymlaen, mi wnaethon nhw fy ysbrydoli i.

"Roedden nhw yno i ni ar ein hadeg tywyllaf, ac mi wnaethon nhw ein helpu prosesu be’ oedd wedi digwydd.

“O hynny ymlaen, roedd y ddwy ohonom ni eisiau helpu pobl eraill fel ‘roedd y swyddogion rheiny wedi ein helpu ni.”

'Bob dim efo'n gilydd'

Mae'r efeilliaid wedi treulio eu bywydau gyda'i gilydd, o'r ysgol i weithio yn yr un ysgol gynradd a siop Asda yng Nghaernarfon.

Penderfynodd Lisa ac Elin wneud cais gyda'i gilydd i ymuno â Heddlu'r Gogledd.

" 'Da ni wedi gwneud bob dim efo’n gilydd ers i ni fod yn fach," meddai Elin.

"‘Da ni mor hapus ein bod yn mynd drwy’r broses efo’n gilydd, mi wnawn ni helpu ein gilydd yn ein gyrfaoedd newydd."

Bellach mae'r ddwy hanner ffordd trwy eu hyfforddiant a byddan nhw'n gweithio yn ne Gwynedd fel swyddogion ymateb wedi cwblhau'r hyfforddiant.

Maen nhw'n barod i wynebu'r heriau sydd yn dod â'r swydd,  meddai Lisa.

"Y rhan fwyaf heriol o’r swydd fydd ymateb i ddigwyddiadau trawmatig. Ond ‘dwi’n barod i fynd iddyn nhw, gan wybod bod y swyddogion sydd wedi wynebu’r un digwyddiadau ydy’r rhai wnaeth newid fy mywyd ac ein hysbrydoli ni’n dwy ymuno efo’r heddlu.

"Dwi’n gobeithio bydda i yn medru cael yr un argraff ar fywyd rhywun."

Ychwanegodd Elin: “’Da ni’n edrych ymlaen at ein dyfodol ni ym mhlismona, ac yn gobeithio gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd.

“Mi fydd ei wneud efo’n gilydd yn ei wneud yn hyd yn oed mwy gwerthfawr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.