Carcharu dyn am ymosod ar ddynes 70 oed yn ei chartref ar Ynys Môn
Mae dyn 52 oed wedi cael ei garcharu am 10 mlynedd ar ôl ymosod ar ddynes yn ei chartref ar Ynys Môn.
Fe wnaeth y ddynes 70 oed redeg o'i chartref yng Nghaergybi yn gweiddi am help wedi i ddyn ei deffro ac ymosod arni.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Carl Reed, 52, wedi cymryd cyffuriau cyn iddo osod y ddynes, oedd yn gweithio fel nyrs, ar ei gwely a'i bygwth.
Dywedodd yr erlynydd Richard Edwards fod y tŷ wedi cael ei dargedu ym mis Mawrth y llynedd.
Cafodd y ddynes ei dyrnu yn ei phen dro ar ôl tro ac fe gafodd DNA Reed ei ddarganfod ar fenyg a crowbar.
Fe wnaeth Reed gyfaddef i ymosod gyda bwriad o ladrata ac fe gafodd gyfnod trwydded estynedig o bedair blynedd fel rhan o'i ddedfryd.
Roedd ganddo 74 o droseddau ar ei record, gan gynnwys tri lladrad.
Dywedodd y barnwr Nicola Saffman fod ei ddioddefwr diweddaraf "wedi ei brawychu" ac yn dioddef sawl pwl o banig parhaus.
Ychwanegodd y barnwr: "Dwi'n derbyn bod gennych chi anhwylder personoliaeth sy'n anodd i'w drin yn llwyddiannus."
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Leslie Ellis: "Roedd y ddynes yn aelod poblogaidd o'r gymuned, a weithiodd yn ddewr fel nyrs am fwy na 30 mlynedd cyn ymddeol.
"Roedd ganddi bersonoliaeth hwyliog ac yn mwynhau bywyd, ond ers y digwyddiad, mae ei hiechyd yn parhau i gael ei effeithio yn ddifrifol.
"Does dim geiriau i ddisgrifio gweithredoedd Carl Reed, maent wedi cael effaith ofnadwy ar ei bywyd."