Mabli Cariad Hall: Dynes yn pledio'n euog i achosi ei marwolaeth
Mabli Cariad Hall: Dynes yn pledio'n euog i achosi ei marwolaeth
Mae dynes 70 oed wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth baban drwy yrru'n beryglus ger mynedfa ysbyty.
Bu farw Mabli Cariad Hall, oedd yn wyth mis oed, ar 25 Mehefin y llynedd wedi gwrthdrawiad y tu allan i fynedfa Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro ar 21 Mehefin.
Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a’i throsglwyddo’n ddiweddarach i Ysbyty Brenhinol Plant Bryste, ond bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Ymddangosodd Bridget Carole Curtis, 70, o Begeli yn Sir Benfro yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Clywodd cwest fod Mabli wedi marw o anafiadau trawmatig difrifol i'r ymennydd.
Cafodd Bridget Curtis ei rhyddhau ar fechnïaeth ddiamodol, ac fe fydd yn cael ei dedfrydu ar 22 Tachwedd.