Newyddion S4C

'Dim cefnogaeth' i gael diagnosis syndrom PCOS

19/09/2024

'Dim cefnogaeth' i gael diagnosis syndrom PCOS

Dwy chwaer sy 'di profi gwahanol symptomau o gyflwr PCOS ond y ddwy â'r un profiad o aros blynyddoedd am atebion.

"Pryd mae 'da ti PCOS ti'n moyn bod yn normal.

"Does dim triniaeth.

"Jyst aros ar y pill i wneud yn siwr bod ti'n cael cycles ti a paid becso am gael plant."

Nawr yn fam i dri, roedd y broses o gael diagnosis i Annika Thomas ar ôl blynyddoedd o fislif anghyson a thrafferthion yn ceisio beichiogi yn bell o fod yn hawdd.

"Oedd dyddiau'n teimlo fel misoedd.

"Oedd hi'n flwyddyn ambell waith cyn bod unrhyw beth wedi digwydd.

"Jyst chasio pawb lan ac wedyn doedd dim direct rhif ffôn i neb.

"Oedd e'n rili emosiynol."

A'i chwaer Sarah wedi wynebu apwyntiad ar ôl apwyntiad.

"Oedd e'n gallu bod yn eitha galed.

"Mae doctoriaid moyn jyst patcho lan un peth ond mae lot iddo fe."

Dyna mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Caerdydd wedi awgrymu bod y nifer o apwyntiadau sydd eu hangen oherwydd y symptomau yn dod a chost o tua £1.2 biliwn i economi'r Deyrnas Unedig bob blwyddyn a'r niferoedd ar gynnydd.

"Problemau gyda mislif afreolaidd, anhawster colli pwysau tyfiant gwallt.

"Cleifion yn cael eu heffeithio'n sylweddol felly bydden i'n annog i'r Llywodraeth, arianwyr a phobl sy'n gwneud polisiau ynglŷn â chyflwr fel PCOS bod rhagor o fuddsoddiad."

Dyw casgliadau'r ymchwil ddim yn sioc i elusennau.

"Dach chi jyst ddim yn gwybod be i wneud efo'ch hun.

"Sneb yn coelio chi pan dach chi'n son am y symptomau.

"Dach chi jyst yn dismissed."

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, dylai Byrddau Iechyd gymryd camau i wella profiadau a chanlyniadau menywod ac y bydd cynllun iechyd menywod yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn a'u bod wedi buddsoddi mewn ymchwil.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod bob amser yn flin i glywed os yw cleifion yn anhapus gyda'r driniaeth maen nhw wedi'u derbyn a'u bod yn ymdrechu i wella cyfathrebu rhwng adrannau.

"Ar y pryd, doedd neb yna."

Erbyn hyn mae Annika wedi sefydlu busnes yn ymwneud â maeth sy'n helpu menywod gyda rhai o symptomau cyflyrau fel PCOS gyda'r gobaith o roi'r gefnogaeth mae'n dweud na chafodd hi wrth wynebu blynyddoedd anodd o geisio cael atebion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.