Dyn o Fôn gyda 'delweddau anweddus eithafol' yn cynnwys crwban yn cael ei gam-drin
Mae dyn o Ynys Môn wedi cyfaddef fod yn ganddo “luniau anweddus eithafol” yn ei feddiant, gan gynnwys fideo o rywun yn cael rhyw â chrwban.
Plediodd James Owen, 30, o Lanfechell, yn euog i fod â llun unigol anweddus o blentyn yn ei feddiant.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth gan ynadon yng Nghaernarfon nes iddo gael ei ddedfrydu gan farnwr llys y goron fis nesaf.
Cafodd orchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw.
Bydd adroddiad yn cael ei baratoi cyn ei ddedfrydu.
Dywedodd ei gyfreithiwr Gareth Parry fod Owen wedi meddwi pan gafodd ei arestio.
Dywedodd yr erlyniad fod Heddlu'r Met sy'n ymchwilio i bedoffeil wedi darganfod bod delwedd, yn y categori gwaethaf o ddifrifoldeb, wedi'i hanfon at Owen.
Fe wnaethant archwilio ei ddyfeisiau ac roedd lluniau anweddus eithafol eraill yno hefyd.
Roedd y troseddau rhwng Medi 2019 a Hydref 2022.