Newyddion S4C

Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn cael ei chynnal yn Sir Benfro

Eisteddfod Genedlaethol

Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn cael ei chynnal yn Sir Benfro, meddai trefnwyr y brifwyl.

Bydd dalgylch yr ŵyl yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a gogledd Sir Gaerfyrddin sydd yn ffinio â Sir Benfro, wrth i drefnwyr fabwysiadu “ffordd cwbl newydd” o weithio gan “ddod a rhannau o dair sir at ei gilydd”.

Mae disgwyl y bydd y safle yn ardal Llantwd, rhwng Aberteifi ac Eglwyswrw ar ochor Sir Benfro o’r ffin.

Bydd yr wŷl yn nodi 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: “Dydyn ni heb fod yn Sir Benfro ers 2002, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i ardal a roddodd gymaint o groeso i ni pan gynhaliwyd yr ŵyl yn Nhyddewi bryd hynny. 

“Rydyn ni eisoes wedi cychwyn gweithio gyda Chyngor Sir Benfro fel yr awdurdod arweiniol, ac yn falch iawn i gydweithio gyda chynghorau Ceredigion a Sir Gâr eto.”

'Gŵyl i'w cofio'

Bydd y paratoadau ar gyfer yr ŵyl yn cychwyn gyda chyfarfod cyhoeddus nos Iau 10 Hydref yn Theatr y Gromlech, Crymych am 19:00. 

Bydd cyfle i bawb sydd am fod yn rhan o’r trefnu i ddod at ei gilydd am sgwrs a chlywed mwy am y cynlluniau sydd ar y gweill, yn ogystal â’r prosiectau cymunedol sydd ynghlwm.

“Mae’n gyfle i ni weithio ar Eisteddfod mewn ffordd newydd, gan fanteisio ar arbenigedd tîm o awdurdodau lleol,” ychwanegodd Ms Moses.

“Bydd hyn yr un mor wir ar lawr gwlad, a byddwn yn amlinellu’r dalgylch a’r cyfleoedd sydd ar gael i ymuno â ni dros y ddwy flynedd nesaf yn y cyfarfod cyhoeddus ddechrau Hydref. 

“Dewch i weld beth sydd ar gael ac i drafod sut y gallwn ni gydweithio i greu prosiect a gŵyl i’w cofio yn yr ardal.”

Bydd y gwaith o ddewis cystadlaethau ar gyfer y Rhestr Testunau yn cychwyn wedi'r cyfarfod cyhoeddus, cyn i’r gwaith ar y rhaglen artistig gychwyn yn y flwyddyn newydd. 

Mae modd cofrestru i gymryd rhan ar wefan yr Eisteddfod nawr, yn ogystal ag enwebu swyddogion y Pwyllgor Gwaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.