Sŵ yn gofyn am help i ddod o hyd i fochyn dŵr
Mae perchnogion sŵ wedi gofyn am help er mwyn ceisio dod o hyd i capybara neu fochyn dŵr sydd wedi dianc.
Mewn neges ar Facebook fe ddywedodd Hoo Zoo and Dinosaur World, sydd wedi lleoli yn Swydd Amwythig, bod ei "hannwyl capybara" Cinnamon wedi llwyddo i adael y sŵ.
"Yn anffodus does yna neb wedi rhoi gwybod i ni eu bod nhw wedi gweld Cinnamon ers nos Sadwrn, er bod gyda ni dimau yn gweithio yn ddiflino i ddod o hyd iddi," meddai'r neges.
Mae'r neges yn dweud bod hi'n debygol bod Cinnamon yng nghyffiniau'r sŵ lle mae digonedd o fwyd a llynnoedd o gwmpas a'i bod wedi rhoi gwybod i'r cyngor ei bod hi ar goll.
Mae'r datganiad hefyd yn dweud wrth y cyhoedd i beidio ceisio dal y capybara ei hunain gan nad yw hi'n glir sut y byddai yn ymateb os yw hi'n ofnus.
"Mae gan Cinnamon berthynas wych gyda cheidwaid y sŵ ac mae'n debygol y gall gael ei hannog i ddod yn ôl i'w chynefin heb i ni orfod ymyrryd yn gorfforol."