Newyddion S4C

Arestio dynion ar amheuaeth o fod â gwn yn eu meddiant yn ystod 'anhrefn' yng Nghaernarfon

Lon y Bryn

Mae ditectifs sy’n ymchwilio i ddigwyddiad yng Nghaernarfon nos Sul wedi arestio pump o bobl.  

Cafodd swyddogion eu galw am 21.38 i adroddiadau o anhrefn cyhoeddus yn Lôn y Bryn yn y dref.

Aeth swyddogion i’r lleoliad, ac fe gafodd dau ddyn eu harestio o dan amheuaeth o fod ym meddiant gwn tanio mewn lle cyhoeddus.

Cafodd tri dyn arall eu harestio o dan amheuaeth o fod ym meddiant arf ymosodol.

Bydd presenoldeb amlwg gan yr heddlu yn yr ardal ddydd Llun, wrth i’r ymchwiliad barhau.

Dylai unrhyw un efo gwybodaeth allai helpu'r heddlu gysylltu gyda swyddogion dros y we, neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio’r cyfeirnod Q140111.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.