Troseddwr gafodd ei ryddhau’n gynnar o’r carchar wedi ei gyhuddo o ymosodiad rhyw yn ddiweddarach yr un diwrnod
Mae dyn gafodd ei ryddhau o’r carchar o dan gynllun rhyddhau cynnar y Llywodraeth wedi ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddynes ar yr un diwrnod y cafodd ei ryddhau.
Mae Newyddion S4C ar ddeall fod y dyn wedi'i ryddhau fel rhan o'r polisi, sy'n ceisio lleddfu gorlenwi carchardai, a hynny ddydd Mawrth diwethaf.
Mae’n cael ei honni o fod wedi aildroseddu yn Sittingbourne yng Nghaint ar “yr un diwrnod a ryddhawyd”, yn ôl dogfennau llys a welwyd gan asiantaeth newyddion PA.
Cafodd ei arestio yn ddiweddarach mewn cyfeiriad yn ne Llundain.
Fe ymddangosodd o flaen llys ynadon ddydd Iau wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn llys y goron fis nesaf.
Mae’r dyn wedi’i alw’n ôl i’r carchar.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Etifeddodd y Llywodraeth garchardai mewn argyfwng ac ar fin dymchwel. Pe bai hynny wedi digwydd, ni fyddai'r llysoedd wedi gallu cynnal treialon a'r heddlu i arestio rhywun.
“Doedd gennym ni ddim dewis ond cyflwyno mesurau brys, gan ryddhau rhai carcharorion ychydig wythnosau neu fisoedd yn gynnar, tra’n eithrio nifer o droseddau a gosod amodau trwydded llym.
“Er na allwn wneud sylw ar fanylion unrhyw achos unigol, bydd y rhai sy’n torri amodau eu trwydded neu’n cyflawni troseddau pellach yn cael eu cosbi.”