Newyddion S4C

Cyhoeddi cynllun ar gyfer tramffordd rhwng canol Caerdydd a'r Bae

Tramffordd Caerdydd / The Urbanists

Mae cynlluniau wedi'u cyhoeddi ar gyfer tramffordd newydd rhwng gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd, gan gysylltu'r ddau gyda lein drên am y tro cyntaf erioed.

Bwriad cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd yw gwella'r rhwydwaith trenau rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd. 

Bydd y dramffordd yn cael ei darparu gan Gyngor Caerdydd a Thrafnidiaeth Cymru.

Fel rhan o’r cynllun, bydd gorsaf newydd gyda dau blatfform yn cael ei hadeiladu yn rhan ddeheuol maes parcio gorsaf drenau Caerdydd Canolog.

Bydd y dramffordd yn rhedeg o ran ddeheuol maes parcio gorsaf Caerdydd Canolog, trwy Sgwâr Callaghan ac yn ymuno â lein bresennol Bae Caerdydd, gan yna deithio yn ei blaen i Fae Caerdydd.

Yn ogystal bydd trydydd platfform yn cael ei adeiladu yng ngorsaf reilffordd Bae Caerdydd fel rhan o'r cynllun. 

Bydd cyfle i'r cyhoedd gael dweud eu dweud fel rhan o ymgynghoriad chwe wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, hyd at 27 Hydref. 

'Cysylltu cymunedau difreintiedig'

Mae gwireddu'r prosiect wedi bod yn "uchelgais ers amser maith", yn ôl y cynghorydd Dan De'Ath, aelod cabinet Caerdydd dros drafnidiaeth.

Dywedodd: "Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yn cysylltu rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Caerdydd â'r rhwydwaith trenau a hynny am y tro cyntaf.

"Yn amodol ar gyllid, bydd Cledrau Croesi Caerdydd yn teithio o ben draw gogledd-orllewin y ddinas, yr holl ffordd i ddwyrain y ddinas gan gysylltu â gorsaf reilffordd arfaethedig Parcffordd/Parkway."

Ychwanegodd: "Er mwyn gallu dechrau'r broses hon, rhaid adeiladu cam cyntaf y cynllun rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Bydd hyn o'r diwedd yn sicrhau bod Butetown yn cael ei gysylltu'n llawn â chanol y ddinas, yn sgil y dramffordd newydd."

Bydd cyfres o ddigwyddiadau galw heibio yn rhoi cyfle i'r cyhoedd gael dysgu mwy am y cynigion.

Llun: The Urbanists

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.