Newyddion S4C

Dan James i golli gemau Cymru ym mis Hydref

13/09/2024
Daniel James

Ni fydd Dan James yn holliach ar gyfer gemau rhyngwladol Cymru ym mis Hydref, ac mae pryder ni fydd capten Cymru Aaron Ramsey ar gael i chwarae dros ei wlad.

Bu rhaid i James dynnu allan o garfan gyntaf Craig Bellamy oherwydd anaf i'w goes ar ddechrau mis Medi.

Dywedodd rheolwr ei glwb Leeds United, Daniel Farke bod yr anaf yn golygu ni fydd yn dychwelyd i'r cae chwarae tan ar ôl gemau Cymru yn erbyn Gwlad yr Iâ a Montenegro ar 11 a 14 Hydref.

Er bod Ramsey wedi chwarae rhan yn y ddwy gêm chwaraeodd Cymru ddechrau Medi, ni fydd ar gael i chwarae dros ei glwb Caerdydd yn erbyn Derby County ddydd Sadwrn.

Dywedodd rheolwr y clwb, Erol Bulut: "Ni fydd [Dan Jamer] ar gael dydd Sadwrn ac rydym yn aros i weld effaith lawn yr anaf," meddai.

Chwaraeodd Ramsey 13 gêm yn unig i Gaerdydd tymor diwethaf oherwydd anafiadau.

Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers bron i 12 mis yn erbyn Twrci ar 6 Medi.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.