Rhybuddio dyn i ‘baratoi am garchar’ ar ôl achosi marwolaeth dyn ifanc o Wynedd
Mae dyn o Gilgwri wedi cael rhybudd gan farnwr i “baratoi ar gyfer dedfryd o garchar” ar ôl iddo gyfaddef achosi marwolaeth dyn o Wynedd drwy yrru’n beryglus.
Fe blediodd Roger Brenninkmeyer, 60, o Neston yn euog yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau i achosi marwolaeth Droy Darroch-York drwy yrru cerbyd BMW yn beryglus ar y B4354 ym Mhentreuchaf ger Pwllheli.
Bu farw Mr Darroch-York ar 4 Mehefin 2022 yn dilyn y gwrthdrawiad.
Fe glywodd cwest i'w farwolaeth ei fod wedi marw yn y fan a'r lle o ganlyniad i anafiadau i'w ben ar ôl i'w gar droi drosodd.
Ar ran yr amddiffyniad, fe ofynnodd Mark Haslam am "adroddiad seiciatrig" cyn y dedfrydu.
Mae Brenninkmeyer wedi ei ryddhau ar fechnïaeth, ac mae bellach wedi'i wahardd rhag gyrru.
Fe rybuddiodd y Barnwr Timothy Petts ef: “Dylech baratoi ar gyfer dedfryd o garchar.”
Ychwanegodd: “Ar ôl darllen y papurau gallaf weld yr angen am adroddiad seiciatrig. Rydych chi'n gwybod bod yn rhaid iddo fod yn ddedfryd o garchar."
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 27 Tachwedd.