Galw ar Oasis a Ticketmaster i gynnig ad-daliad
Mae'r grŵp defnyddwyr Which? wedi galw ar Oasis a Ticketmaster i wneud "yr hyn sy'n iawn" a chynnig ad-daliad i bobl dalodd dipyn mwy na'r prisiau gwreiddiol am docynnau i gyngerdd Oasis yr haf nesaf.
Cafodd nifer o bobl syndod fod prisiau rhai tocynnau ar gyfer y daith wedi mwy na dyblu o £148 i £355 ar wefan Ticketmaster wrth i'r galw gynyddu.
Dywedodd Dan Williams o Gaerdydd ei fod yn teimlo'n "siomedig" ei fod wedi gorfod talu mwy na dwbl y pris gwreiddiol am docyn sefyll i'r cyngerdd.
"O’n i’n siomedig achos o’n i 'di treulio fy nydd Sadwrn yn ciwio am docyn o dan yr argraff ei fod yn mynd i fod yn ddrud ond ddim yn wirion o ddrud," meddai.
"Mae'n annheg bod lot o bobl wedi talu hanner be' nes i dalu am yr un tocyn, achos does dim byd extra yn dod efo’r arian ychwanegol nes i dalu.
"Yr un tocyn yw e a’r tocynnau oedd gan bobl oedd wedi bod yn ddigon ffodus i dalu £148 yn hytrach na £355, felly o'n i'n siomedig iawn."
Mae Llywodraeth y DU a Which? wedi addo y byddan nhw'n bwrw golwg ar yr arferiad o gynyddu prisiau yn sydyn pan fo galw mawr am docynnau.
'Cymryd mantais'
Mae Which? wedi gofyn i ffans Oasis i anfon lluniau iddyn nhw o'u sgrin yn ystod y broses archebu ar-lein a thalu, er mwyn darganfod a oedd rhybudd y gallai prisiau godi yn sylweddol yn sgil y galw mawr.
Yn ôl Which? maen nhw eisoes wedi derbyn dwsinau o luniau sgrin gan gwsmeriaid a geisiodd brynu tocynnau, a hynny cyn ac ar ôl i'r prisiau godi. Does yr un ohonyn nhw yn dangos rhybudd y byddai Ticketmaster yn codi'r prisiau yn ystod y broses werthu, meddai'r grŵp defnyddwyr.
O dan y ddeddf sy'n gwarchod defnyddwyr rhag masnachu annheg, ni ddylai cwsmeriaid gael eu camarwain, wrth i brisiau gael eu cofnodi.
Yn ôl Which? chafodd nifer fawr o ffans Oasis ddim gwybod am y prisiau sylweddol hyd nes iddyn nhw geisio ychwanegu tocynnau rhatach i'w basged siopa.
Tra roedd cyferiad at "godi prisiau yn unol â'r galw" yn yr adran amodau a thelerau ar eu gwefan, doedd dim rhybudd y byddai hynny'n cael ei weithredu ar gyfer tocynnau Oasis, medd y grŵp.
Dywedodd Mr Williams nad oedd wedi derbyn rhybudd swyddogol y byddai prisiau'r tocynnau'n codi.
"Yr unig rhybudd ges i oedd gan fy ffrindiau oedd wedi cael mewn i'r wefan cyn fi ac oedd wedi textio i ddweud bod prisiau wedi dwblu a bod rhaid talu £355 i gael tocyn sefyll – ges i ddim rhybudd gan Ticketmaster na’r band eu hunain," meddai.
"Roedd lot o bobl yn meddwl 'sa nhw byth yn cael gweld Oasis, neu byth cael gweld nhw eto, felly odd lot o bobl yn excited iawn i brynu tocynnau ac yn amlwg roedd galw uchel yn mynd i fod amdanyn nhw, felly fi’n credu bod nhw wedi cymryd mantais o bobl."
Ychwanegodd: "Fi’n credu bydd e’n rhoi lot o bobl off yn y dyfodol i brynu tocynnau bandiau eraill, yn enwedig gan Ticketmaster."
Ymchwiliad
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd yr Awdurod Cystadleuaeth a Marchnadoedd eu bod yn cynnal ymchwiliad i weithredoedd Ticketmaster yn sgil gwerthiant tocynnau Oasis.
Mae Ticketmaster wedi dweud nad yw'n gosod prisiau cyngherddau, a bod eu gwefan yn nodi mai "trefnydd y digwyddiad" sydd wedi "gosod y prisiau yn seiliedig ar werth y farchnad".
Dywedodd Oasis yn flaenorol nad oedd ganddyn nhw unrhyw rôl yn y penderfyniad i godi'r prisiau ar sail y galw.
Mae Oasis a Ticketmaster wedi cael cais i ymateb i alwad Which?