Pam nad yw rheolwr newydd tîm pêl-droed Lloegr, Lee Carsley, yn canu’r anthem?
Mae rheolwr dros dro tîm pêl-droed Lloegr, Lee Carsley, wedi dweud na fydd yn canu’r anthem ‘God Save the King’ cyn gemau’r wlad.
Cafodd y dyn 50 oed ei eni yn ninas Birmingham ond mae wedi chwarae 40 gwaith dros Weriniaeth Iwerddon.
Dywedodd nad oedd byth wedi canu anthem yr un o’r ddwy wlad cyn gem bêl-droed ond fod hynny am ei fod eisiau canolbwyntio ar baratoi am y gêm.
Ni wnaeth ganu'r anthem cyn gêm Lloegr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon bnawn Sadwrn.
Ond mae ei esboniad wedi creu stŵr gan ymddangos ar dudalen flaen papur newydd y Telegraph ddydd Sadwrn ac mewn cyhoeddiadau eraill.
"Mae’n rhywbeth o’n i’n cael trafferth ag ef pan oeddwn i'n chwarae i Iwerddon," meddai Carsley.
"Mae yna fwlch pan ydych chi’n cynhesu, yn dod allan ar y cae ac yna’r oedi gyda'r anthemau. Mae'n rhywbeth dydw i erioed wedi'i wneud.
"Roeddwn i bob amser yn canolbwyntio'n ar y gêm a beth oedden i am ei wneud ar ddechrau gêm.
“Fe wnes i sylwi bod angen i fi fod yn ofalus yn y wyliadwrus yn y cyfnod hwnnw fel nad oedd fy meddwl i’n crwydro.
"Roeddwn i wir yn canolbwyntio ar y pêl-droed ac rydw i wedi parhau i wneud hynny wrth hyfforddi.
"Rwy'n parchu'r ddwy anthem yn llwyr ac yn deall faint maen nhw'n ei olygu i'r ddwy wlad. Mae'n rhywbeth rydw i'n wirioneddol barchus ohono."
'Welwn ni chi'
Mae ei sylwadau wedi hollti barn gyda chyflwynydd talkSPORT Jamie O'Hara yn dweud ei fod wedi “colli'r genedl'” cyn dechrau.
“‘I fi mae hynny’n golygu, welwn ni chi yn nes ymlaen, rydych chi newydd golli’r genedl gyfan cyn i chi hyd yn oed gicio pêl, diolch am ddod Lee,” meddai.
Ond dywedodd y sylwebydd pêl-droed Ian Darke: “Mae Lee Carsley yn cael ei gyflogi i reoli tîm pêl-droed Lloegr gyda dewisiadau craff, tactegau a llond trol o antur.
“Nid yw’n ymgeisydd ar ‘The Masked Singer’. Ni ddylai neb boeni a yw’n canu'r anthem os yw’n gallu cael y gorau allan o’i chwaraewyr.”