Newyddion S4C

Rhybudd newydd am law trwm i rannau o Gymru ar ôl llifogydd

07/09/2024
Rhybudd melyn yng Nghymru

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn newydd i rannau o Gymru ar ôl llifogydd yn y de nos Wener.

Mae’r rhybudd yn ymestyn o 21.00 ddydd Sadwrn i 18.00 ddydd Sul ac yn rhagweld glaw trwm a tharanog ar draws y rhan helaeth o dde a canolbarth Cymru.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai mannau weld hyd at 100mm o law a bod siawns o lifogydd a thoriadau pŵer.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd: “Mae ansicrwydd o hyd ynglŷn â’r union fanylion, ond mae disgwyl i ardaloedd o law trwm a tharanog ar adegau ledaenu i’r gogledd, yna i’r gorllewin, ar draws Cymru a Lloegr o heno ymlaen a thros nos.

“Gall yr ardaloedd hyn o law trwm ddod yn fwy cyson ar draws ardaloedd gorllewinol yn ystod y dydd Sul tra bod cawodydd trwm araf a tharanau yn debygol o ddatblygu ymhellach i'r dwyrain.

“Mae siawns is y gallai ychydig o smotiau o fewn ardal y rhybudd melyn weld 80-100 mm o law erbyn diwedd dydd Sul a allai ddisgyn mewn cyfnod gweddol fach o amser.”

Daw wrth i werth mis o law syrthio mewn rhai ardaloedd yn ne Cymru nos Wener

Roedd Ffordd Merthyr dan ddŵr yn ardal yr Eglwys Newydd o Gaerdydd, ac fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn ymateb i lifogydd ym Mhort Talbot.

Dywedodd dyn tywydd BBC Cymru Derek Brockway bod dros fis o law wedi ei gofnodi ym Mharc Fictoria, Abertawe ddydd Gwener.

Syrthiodd hanner y cyfanswm dyddiol o 87.2mm, 43.8mm, mewn awr rhwng 20.00 a 21.00, meddai.

Siroedd

Mae’r rhybudd yn berthnasol yn y siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.