'Trychinebus': Problemau casglu sbwriel yn bygwth dyfodol arweinydd cyngor Sir Ddinbych
Mae problemau casglu sbwriel yn Sir Ddinbych yn bygwth dyfodol arweinydd y cyngor sir.
Mae rhai o gynghorwyr annibynnol y sir wedi galw ar Blaid Cymru i bleidleisio i gael gwared â Jason McLellan, sy’n cynrychioli'r Blaid Lafur.
Daw wedi lansiad “trychinebus” system newydd o gasglu sbwriel ailgylchu yn y sir.
Mae trigolion wedi cwyno am fagiau bin wedi'u pentyrru ar y strydoedd a phlâu o gynrhon a llygod mawr.
Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd y grŵp annibynnol fod y cynllun ailgylchu newydd yn costio £50,000-£60,000 yr wythnos yn fwy na’r disgwyl.
Roedd staff cyngor wedi eu tynnu i mewn o adrannau eraill i helpu i gasglu’r biniau oedd dros ben.
Mae’r grŵp annibynnol bellach wedi cyflwyno cais i ddisodli arweinydd a chabinet y sir, a fydd yn cael ei drafod ddydd Mawrth y 10fed o Fedi.
Mae arweinydd y grŵp Annibynnol Huw Hilditch-Roberts wedi galw ar Blaid Cymru i gefnu ar eu clymblaid gyda’r blaid Lafur a phleidleisio o blaid y cynnig.
Mae gan y cyngor 46 o gynghorwyr gyda 15 yn cynrychioli'r Blaid Lafur, 13 y Grŵp Annibynnol, wyth Plaid Cymru, saith y Ceidwadwyr Cymreig, dau o'r Blaid Werdd ac un sy’n annibynnol o bob grŵp.
Dywedodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y dylai pob aelod bleidleisio dros y newid.
“Rwy’n falch bod y cyfarfod wedi’i drefnu, a bydd hwn yn gyfle i bawb fynegi eu pryderon,” meddai.
“Rwy’n edrych ymlaen at gael y ddadl, ac rwy’n edrych ymlaen ac yn gobeithio’n fawr y bydd pob cynghorydd yn pleidleisio er lles pobol Sir Ddinbych ac nid am resymau gwleidyddol.
“Y cwestiwn mawr yw a fydd Plaid Cymru yn torri eu clymblaid gyda Llafur fel maen nhw wedi gwneud yn Llywodraeth Cymru? ”
‘Problem enfawr’
Mae Arweinydd y Cyngor, y Cyng Jason McLellan a Phlaid Cymru wedi cael cais am sylw.
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y Cynghorydd McLellan: “Rwy’n cydnabod yn llwyr fod cyflwyno’r model gwastraff newydd wedi bod yn broblem enfawr.
“Rydw i wedi ymddiheuro i bawb sydd wedi’u heffeithio gan hyn, ac rwy’n gwneud hynny unwaith eto.
“Rwy’n gwerthfawrogi’n llwyr nad yw ymddiheuriadau yn gwagio biniau, a dyna pam ydw i wedi gofyn i gadeiryddion pwyllgorau’r cyngor graffu ar y broses o gyflwyno’r newid, ac rydw i’n croesawu'r broses hon.
“Rydw i wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros yr haf gyda’r aelodau arweiniol i wneud yn siŵr bod y problemau hyn yn cael eu datrys.
“Roedd newid enfawr fel hyn bob amser yn mynd i fod yn anodd, ond mae gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud ac mae gan fwyafrif helaeth o drigolion wasanaeth cyson.
“Rwy’n cydnabod bod yna faterion sy’n weddill yr ydym yn gweithio i’w datrys.”