Chwilio am o le daeth Maen Allor Côr y Cewri ar ôl cadarnhau nad yw’n dod o Gymru
Mae arbenigwyr yn parhau i grafu pen am o le daeth Maen Allor Côr y Cewri ar ôl cadarnhau nad yw’n dod o Gymru.
Daeth y newyddion fis diwethaf fod y “garreg las” fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri yn dod o’r Alban, ac nid o Gymru fel y credwyd o’r blaen.
Ond mae’r dirgelwch wedi dwysau wedi i bapur newydd ddod i’r casgliad nad yw’n dod o un o’r lleoliadau mwyaf tebygol, Ynysoedd Erch (Orkney), chwaith.
Dywedodd yr Athro Richard Bevins o Brifysgol Aberystwyth, sydd wedi bod yn astudio Côr y Cewri ers 15 mlynedd, bod y garreg yn dod o Fasn Orcadaidd rywle yng ngogledd-ddwyrain yr Alban.
“Mae’r ymchwil hwn yn newid yn sylweddol ein dealltwriaeth o darddiad Maen yr Allor,” meddai.
“Mae’n wefreiddiol gwybod bod ein gwaith dadansoddi cemegol a dyddio yn araf ddatgloi’r dirgelwch mawr hwn o’r diwedd.
“Mae Maen yr Allor yn eithriad mewn sawl ffordd o gymharu â’r cerrig gleision a’r ‘sarsens’ yng Nghôr y Cewri.
“Gan ei bod hi’n pwyso chwe thunnell nid yw’n agos at faint y ‘sarsens’, mae’n llawer mwy na’r cerrig gleision, sef y rhai y bu’n cael ei chategoreiddio gyda nhw.
“Fel academydd, rwyf wedi ymddiddori yng Nghôr y Cewri ers degawdau.
“Bydda i a’m cydweithwyr yn y tîm yn parhau i weithio i chwilio o ble yn union yng ngogledd-ddwyrain yr Alban y daw Maen yr Allor.”
‘Gwahanol’
Dechreuwyd adeiladu Côr y Cewri 5,000 o flynyddoedd yn ôl, gyda newidiadau ac ychwanegiadau dros y ddau fileniwm nesaf.
Er nad yw’n glir pryd y cyrhaeddodd Maen yr Allor Côr y Cewri, mae’n bosibl ei bod wedi’i gosod o fewn y bedol ganolog o gerrig byd-enwog yn ystod ail gyfnod yr adeiladu tua 2620 - 2480 CC.
Gyda llawer o henebion Neolithig, a gyda’r nodweddion daearegol cywir, ymddangosodd Orkney fel ffynhonnell debygol ar gyfer Maen yr Allor.
Mae’r ymchwil diweddaraf, a gyhoeddwyd yn y Journal of Archaeological Science: Reports, yn dadansoddi’r bum garreg o’r cyfnod Neolithig sydd i’w gweld yng Ngherrig Stennes, a saith arall yng Nghylch Brodgar ar dir mawr Orkney, sy’n debyg o ran maint a math i Faen yr Allor.
Daw’r ymchwil i’r casgliad na ddaeth Maen yr Allor, sy’n pwyso chwe thunnell, o dir mawr Orkney ond o rywle arall yng ngogledd-ddwyrain yr Alban.
“Mae’r dirgelwch am o ble y daeth y garreg yn dod yn gliriach byth wrth i ni ddechrau diystyru ardaloedd penodol yng ngogledd-ddwyrain yr Alban,” meddai yr Athro Richard Bevins.
“Mae’n gorwedd mewn safle anarferol, yn agos at galon yr heneb a ddim o fewn Cylch y Cerrig Gleision na Charn y Cerrig Gleision.
“Mae hi hefyd yn dywodfaen wyrdd-lwyd, ac yn wahanol i’r mathau eraill o gerrig gleision.”