Newyddion S4C

Coroni brenhines newydd y Māori yn Seland Newydd

05/09/2024

Coroni brenhines newydd y Māori yn Seland Newydd

Mae menyw 27 oed wedi ei choroni'n frenhines y Māori yn Seland Newydd ar ôl i'w thad y Brenin farw.

Cafodd Ngā Wai hono i te ei dewis i fod yn kuini - brenhines yn iaith Māori - gan gyngor o swyddogion Māori brodorol mewn seremoni ar Ynys y Gogledd y wlad.

Hi yw'r ail fenyw i gael ei dewis i fod yn kuini. Y cyntaf oedd ei mam-gu Te Arikinui Dame Te Atairangikaahu yn 2006.

Bu farw ei thad Kiingi Tuheitia Pōtatau Te Wherowhero VII ddydd Gwener ddiwethaf yn 69 oed.

Roedd coroni y Frenhines newydd yn rhan o seremoni fawr lle'r oedd ei thad yn cael ei gladdu yn ogystal.

Fe wnaeth y dorf berfformio caneuon cyn claddu Kiingi Tuheitia Pōtatau Te Wherowhero VII ar Fynydd Taupiri sydd yn lleoliad sanctaidd i'r Māori.

Image
Kuini Nga wai hono i te po
Y frenhines newydd yn ystod y seremoni. Llun: Wochit

'Pwysau cymdeithasol'

Mae'r frenhiniaeth Māori yn dyddio'n ôl i'r 19eg ganrif, pan benderfynodd gwahanol lwythau Māori greu ffigwr tebyg i frenhines Ewropeaidd er mwyn ceisio gwarchod eu tir a'u diwylliant.

Dywedodd Mereana Hond, newyddiadurwr Māori wrth y BBC bod y bobl Māori dan bwysau diwylliannol ac economaidd.

Mae hyn o ganlyniad i bolisïau’r llywodraeth glymbleidiol yn Seland Newydd sydd yn cynnwys cynlluniau i newid enwau rhai adrannau'r llywodraeth o Māori i Saesneg.

"Dwi erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn," meddai wrth drafod y seremoni.

"Rydym ni wedi colli brenin oedd yn cynyddol boblogaidd, yn arwain llwythi Aotearoa a Seland Newydd mewn cyfnod lle'r ydym yn wynebu pwysau cymdeithasol a gwleidyddol dan y llywodraeth glymblaid."

Cafodd Kiingi Tuheitia Tūheitia Paki ei eni yn 1955, a'i goroni yn 2006 yn dilyn marwolaeth ei fam, Te Arikinui Dame Te Atairangikaahu.

Fel ei fam, roedd yn cael ei weld fel ffigwr oedd yn uno pobl Māori, gan alw yn ddiweddar ar y Māori i sefyll gyda'i gilydd yn wyneb polisïau a oedd meddai yn eu targedu.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.