Newyddion S4C

Merch 10 mlwydd oed yn ennill gwobr fawreddog yng Ngwobrau Ffermio Ifanc Prydain

Elliw Grug Davies

Mae merch 10 oed o Geredigion wedi ennill gwobr fawr yn y Gwobrau Ffermio Prydeinig Ifanc cyntaf erioed.

Mae Elliw Grug Davies sy'n ddisgybl yn  Ysgol Dyffryn Cledlyn, Drefach wedi’i henwi’n Driniwr Iau’r Flwyddyn y DU ar ôl dangos ei tharw, Urock, yn y gystadleuaeth.

"Dwi mor hapus i ennill y wobr yma," meddai Elliw wrth ITV Cymru Wales.

"Do’n i ddim yn gallu credu'r peth pan ddywedon nhw 'Elliw Grug Davies' a meddyliais 'o mam bach, fi yw hwnna'."

Image
Rhai o wobrau'r teulu
Rhai o wobrau'r teulu

Mae Elliw yn mwynhau helpu ei rhieni ar y fferm ac mae ganddi uchelgais o drin a chymoni gwartheg pan fydd yn tyfu i fyny.

Mae ei brawd bach Ioan yr un mor uchelgeisiol ac yn dysgu gan Elliw. 

Mae ganddo ei lo tarw ei hun o’r enw Victor, sydd ond yn bythefnos oed, ac mae Ioan yn gobeithio ei ddangos yn y cylch yn y dyfodol.

Fodd bynnag, nid dyma’r wobr gyntaf i Elliw ei hennill. Ar ôl ymuno â chylch y sioe yn bedair oed yn unig, mae wedi ennill nifer o deitlau, gan gynnwys gwobr Triniwr Ifanc Iau yn Sioe Frenhinol Cymru gyda defaid Dorset.

Dywed mam Elliw, Elen, fod ei merch yn parhau i fod yn rhyfeddol o dawel ei meddwl yn ystod cystadlaethau.

"Roeddwn i'n fwy nerfus na hi," meddai Elen. “Roeddwn i'n gofyn iddi ar y ffordd i fyny 'Wyt ti'n iawn?' 'Ie dwi'n iawn!' Wnaeth o ddim ei heffeithio hi o gwbl.

"Mae hi mor cŵl gyda hyn. Fel y dywedais, roeddwn i'n fwy nerfus yn teithio 180 milltir. Hon oedd y 180 milltir hiraf i Swydd Efrog, ond roedd yn werth chweil."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.