Carfan rygbi Cymru i wynebu’r Ariannin
Fe fydd Cymru yn wynebu’r Ariannin yn ddiweddarach dydd Sadwrn yn ail gêm brawf yr haf.
Daw gornest ddiweddaraf y crysau cochion wythnos wedi iddyn nhw faeddu Canada o 68-12.
Fe fydd Cymru’n wynebu’r Ariannin yn Stadiwm y Principality am yr eildro ymhen wythnos.
Yn siarad cyn y gêm, dywedodd capten Cymru, Jonathan Davies wrth WRU TV: “Ry’n ni’n ymwybodol o fygythiad yr Ariannin, ry’n ni’n gwybod ei fod yn debygol o fod gam yn uwch eto’r wythnos hon ac yna’r wythnos nesaf hefyd”.
Ond fe fydd y garfan heb un o’i hwynebau mwyaf profiadol wedi i Leigh Halfpenny ddod oddi ar y cae o fewn munud agoriadol y gêm yn erbyn Canada.
Daeth cadarnhad yn ddiweddarach fod Halfpenny wedi derbyn anaf i gewyn ei ben-lin ac y byddai allan o’r garfan am weddill gemau prawf yr haf.
Golwg ar y garfan
XV Cymru: 1. Nicky Smith, 2. Elliot Dee, 3. Dillon Lewis, 4. Ben Carter, 5. Will Rowlands, 6. Ross Moriarty, 7. James Botham, 8. Aaron Wainwright, 9. Kieran Hardy, 10. Callum Sheedy, 11. Owen Lane, 12. Jonathan Davies (C), 13. Ulisi Halaholo, 14. Jonah Holmes, 15. Hallam Amos
Eilyddion: R. Elias, G. Thomas, L. Brown, J. Turnbull, T. Basham, T. Williams, J. Evans, N. Tompkins
Fe fydd y gic gyntaf am 13:00 gyda’r cyfan i’w weld yn fyw ar S4C.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans