Cais dadleuol i drawsnewid hen dafarn ar Ynys Môn yn gartref gofal
Mae cynlluniau wedi eu cyflwyno i drawsnewid hen dafarn ar Ynys Môn yn gartref gofal.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi derbyn cais cynllunio llawn i drawsnewid adeilad y Mostyn Arms ym Mhorthaethwy yn gartref gofal 10 ystafell.
Mae'r eiddo o'r 19eg ganrif wedi ei leoli ar Ffordd Sant Siôr yn y dref ac wedi bod yn wag ers 2009.
Cafodd y cais ei gyflwyno gan gwmni pensaernïaeth Russell Hughes Cyf ar ran Garry Poole.
Fel rhan o'r cais, dywedodd yr ymgeiswyr bod “galw cynyddol gan boblogaeth sy’n heneiddio am ddatblygiadau sydd wedi’u haddasu i anghenion pobl hŷn”.
Byddai'r cartref gofal ar gyfer pobl dros 55 oed, gan gynnig cyfleusterau i drigolion ag “ystod o anghenion”.
Mae'r swyddogion cynllunio'n argymell caniatáu'r cynllun gydag amodau.
Ond bydd y pwyllgor cynllunio yn trafod y cais yn dilyn pryder bobl leol.
'Dim ymgynghoriad'
Dywedodd y pwyllgor eu bod wedi derbyn 16 o sylwadau, gyda chwech o blaid a 10 yn erbyn y cynlluniau.
Roedd pryderon yn cynnwys “diffyg manylion” ynghylch defnydd bwriadedig yr adeilad yn ogystal â "dim ymgynghoriad blaenorol â thrigolion lleol".
Roedd pryderon eraill yn cynnwys peidio â bodloni gofynion y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC), ac addasrwydd yr eiddo ar gyfer cartref gofal.
Roedd rhai wedi nodi hefyd nad oedd y safle o fewn pellter cerdded hawdd i wasanaethau a chyfleusterau’r dref oherwydd “natur y rhwydwaith ffyrdd”.
Ymhlith pryderon eraill oedd traffig, diffyg parcio, a diogelwch ffyrdd.
Mewn ymateb, roedd yr ymgeiswyr wedi cynnwys llythyr gan y darparwr gofal y maen nhw'n bwriadu ei ddefnyddio.
Dywedodd yr ymgeiswyr fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn “fodlon” gyda'r wybodaeth yn y cais, gan gadarnhau bod “angen cyfleusterau o'r fath”.
Ac yn ôl yr adran briffyrdd, roedd y ddarpariaeth parcio “ychydig yn is na’r safonau gofynnol” – gyda phump yn hytrach na chwe lle parcio.
Ond roedd hyn yn cael ei ystyried yn “ddigonol” oherwydd “digonedd” o leoedd parcio cyhoeddus a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd y pwyllgor cynllunio yn trafod y cais cynllunio ddydd Mercher.